Tynnwyd y lluniau yma gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Tywyn yn ystod gweithdai ffotograffiaeth ar yr Hysbys, bws cymunedol y BBC.
Ymunodd Dewi Jones, ffotograffydd proffesiynol, gyda staff y bws i roi cyngor i'r plant ar sut i dynnu llun a dewis eu ffefrynnau i'w rhoi ar y wefan.
Prif bwrpas y gweithdai oedd rhoi'r cyfle i'r plant dynnu lluniau o fywyd yn eu cynefin. Maen nhw'n rhan o gynllun ehangach adran datblygu Cyngor Gwynedd, sy'n cynnwys plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Mae yna gynlluniau i drefnu arddangosfa o'r gwaith ac mi fydd rhai o'r lluniau i'w gweld yn llenyddiaeth y cyngor.
Trefnwyd y gweithdai gan Mabis o Menter a Busnes. Cafwyd lluniau hefyd gan yr ysgolion yma: Ysgol Gynradd Penybryn, Tywyn Ysgol Bro Lleu, Penygroes Ysgol Uwchradd Glan y Môr, Pwllheli Ysgol Gynradd Yr Eifl, Trefor
 |