| Chwedl Cantre'r Gwaelod "Mae na sôn am Gantre'r Gwaelod yn y Mabinogi. Ynddynt y mae yna sôn am Frenin, neu arweinydd Cantre'r Gwaelod, sef Gwyddno Garnhir. Roedd Cantre'r Gwaelod ymhell allan i'r môr, ger arfordir Tywyn ac Aberdyfi. Mae yna dair sarn yn dal yna. Sarn Cynfelin, allan i'r môr ger Aberystwyth, Sarn-y-Bwch ger Tonfanau a Sarn Badrig sydd ddim ymhell o Harlech. Mae rhai yn dweud mai'r sarnau yma oedd y waliau o amgylch tir Cantre'r Gwaelod, ond maent yn mynd y ffordd anghywir.
I mi, mae'r ateb yn yr enw. Sarn. Sef lôn i deithio ar droed neu gyda cheffyl a throl. Mae'n siŵr mai tir morfa oedd ardal Cantre'r Gwaelod ac yn sicr wrth fynd i lawr i'r traeth ar ôl storm gallwch weld gwreiddiau coed enfawr a thir mawnog. Felly mae'n amlwg fod tir wedi bod allan i'r gorllewin flynyddoedd yn ôl, ond bod y môr wedi ei foddi erbyn heddiw. D'wn i ddim pa mor gyflym ddaru hyn ddigwydd, ond mae sôn am y tirwedd yma wedi parhau.
Lle'r oedd y llys? Mi fuaswn i'n dweud pen pellaf Sarn Cynfelin, rhwng Aberystwyth a'r Borth oherwydd bod yna rhywbeth i'w weld wrth fynd drosto mewn cwch. Dwi' ddim yn sicr beth oedd enw llys Cantre'r Gwaelod, rhywbeth fel 'Mauda', nad yw'n swnio'n Gymreig iawn.
Mae hen straeon yn parhau yn aml iawn yng Nghymru oherwydd ein bod ni fel Cymry wedi aros yma, ac mae'r stori yn cael ei basio i lawr rhwng y cenedlaethau o flwyddyn i flwyddyn, o ganrif i ganrif. Felly dwi'n credu fod yna rywfaint o wirionedd ym mhob stori werin."
 |