BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tywyn
Cath RowlandsY nyrs a'r dafarn
O nyrsio drwy'r rhyfel i redeg tafarn, mae gan Cath Rowlands o Dywyn gysylltiadau hir efo'r dref.

"Ges i fy ngeni yma mewn tŷ yn Church Street yn Nhywyn. Roedd yn lle diogel ar y pryd - yn saff i adael y drws ar agor.

Mi wnes i gychwyn gweithio yn Ysbyty Tywyn fis cyn fy mhen-blwydd yn 16 ac mae'r llythyr yn cynnig swydd hyfforddi fel nyrs yn dal gen i - '£30 for the first year, £35 for the second year' - i weithio o saith yn y bore tan wyth y nos.

Roedd Matron Pavey yno yr adeg honno, yn rheoli pawb efo rod of iron, a 'mond peth bach oedd hi! Roedd 'na major ops yn Ysbyty Tywyn yr adeg hynny a phum gwely mamolaeth oedd yn llawn o hyd o wragedd y soldiwrs o'r gwersylloedd.

Ni oedd yn gwneud y glanhau i gyd ac roedd yr ysbytai felly yn lot glanach - roedden ni'n golchi wal y theatr bob wythnos efo carbolig a doedd na ddim o'r MRSA 'ma'r adeg honno.

Roedd yn grêt o brofiad edrych ar ôl y milwyr. Roedd hefyd yn brofiad i ferch mor ifanc fod yn gweithio. Es i Lerpwl yn 18 oed, ond gan nad oeddech chi'n cael priodi a mynd nôl i orffen hyfforddiant fel nyrs, roedd yn rhaid i mi roi'r gorau iddi.

Mi wnes i redeg tafarn y Tredegar am flynyddoedd. Roedd camp y fyddin yn dal yn Nhonfannau ar y pryd ac roedd yn brysur. Dyna be laddodd Tywyn a dweud y gwir, pan ddaru'r 'armi' adael.

Dwi'n cofio'r Ugandans yn dod i Dywyn, pan gafodd rhai eu troi allan o Uganda yn y 1970au oherwydd Idi Amin Daethant i Donfannau a ddaru pobl Tywyn roi croeso iddyn nhw yma ac roeddent yn hapus yma. Roedden nhw'n arfer dod i'r dafarn - y sheiks ar un ochr a'r lleill ar yr ochr arall! Ond roedd pawb yn cymysgu efo'i gilydd yn dda.

Rhedais y dafarn am 27 mlynedd. Roedd gen i love/hate relationship efo'r lle - roedd yn cymryd fy amser, a ninnau efo pedwar o blant. Ond doedd 'na byth drafferth - ddaru ni erioed alw plismon yno. Os oedd 'na ryw filwr yn cychwyn rhywbeth, roedden nhw'n gofalu amdano fo ac mi fyddai'r locals yn sortio pethau ym mysg ei gilydd hefyd. Dyddiau da."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy