"Deng mlynedd ar hugain yn ôl 'doedd yna yr un gair o Gymraeg ym mhapurau lleol ardal Llansannan. Fe fu amser pan gynhwysid adroddiadau Cymraeg Cynghorau Plwyf ag ati yn y papurau hyn. Ond dim bellach.
I'r rhai hynny ohonoch sydd yn ddigon hen i gofio, yr oedd deng mlynedd ar hugain yn ôl yn gyfnod pan oedd yn rhaid brwydro'n galed i gael cydnabyddiaeth i'r iaith Gymraeg.
Ac yn aml iawn, yn dilyn y brwydro, byddai dilorni.
Ond, ran amlaf, byddai'r dilorni yn esgor ar ragor o benderfyniad i frwydro'n galetach.
Onibai am y brwydro hwnnw mewn gwahanol feysydd, a hynny yn arbennig ers cyfnod sefydlu Cymdeithas yr laith ar ddechrau'r chwedegau, go brin y byddai cystal ymwybyddiaeth o'r Gymraeg heddiw.
Ond, i fynd yn ôl at bapurau lleol. Gwelsom ni ym Mro Aled nad oedd diben brwydro am ragor o Gymraeg yn y papurau lleol oedd yn nwylo perchnogion preifat.
'Doedd dim amdani ond mynd ati i 'berchnogi' ein papur ein hunain. A dyna wrth gwrs sut y daeth Y Gadlas i fod.
Fe ddywedodd Dr Gwyn Tomos, Dinbych, wrtha i ryw dro na dim lle ganwyd plentyn ddylid ei nodi, ond lle cenhedlwyd o.
Yn Llys Myfyr, Llansannan y cenhedlwyd Y Gadlas, a dwi'n credu mai Lloyd Boderw, Eirwen fy chwaer, Palmer y gŵr, Wyn Roberts, Daron, Alwyn Williams, Caerau, ac Edgar Williams, Llyn oedd yn bresennol.
Roedd pob un ohonyn nhw yn gynhyrfus iawn, ac yn nodi iddynt genhedlu papur bro. Un enw posib i'r papur oedd 'Gwylfa Hiraethog' .
Acw, yn y Rhosydd y ganwyd y papur bro, a hynny ym mhresenoldeb llond rŵm ffrynt o gefnogwyr.
Cafodd sawl enw posib arall ei gynnig. Ond fe'i bedyddwyd yn Y Gadlas. Ac fe'i rhoddwyd i'm gofal.
Ym 1958 prynodd fy nhad deipiadur portabl Olivetti i mi. Hefo hwnnw mi ddechreuais i 'sgwennu.
Wrth ddechrau meddwl am gynnwys Y Gadlas, a llenwi colofnau, y teipiadur bychan hwn oedd yr unig arf yn ein meddiant.
Oedd gennym ni gynllun busnes? Nagoedd.
Cyfrif banc? Nagoedd.
Yr hyn oedd gennym oedd ewyllys. Ac ys dywed y ddihareb, Ceffyl da ydi 'wyllys.
Pan fydda' i'n edrych yn ôl ar gyfnod cynhyrchu'r rhifynnau cyntaf o'r Gadlas, mi fydda' i'n methu coelio bron i ni wneud hynny heb geiniog o gyfalaf, heb brofiad newyddiadurol na phrofiad busnes.
Yr hyn oedd gennym oedd brwdfrydedd, teipiadur llaw Olivetti, dycnwch, a phenderfyniad.
Yr oeddem am weld y Gymraeg yn ffynnu, a Chymry yn medru darllen eu hanes yn eu iaith eu hunain.
'Doedd y gwaith ddim yn hawdd bob tro. Ond fe gawsom hwyl. Closiodd pobl a phentrefi at ei gilydd i gynnal amrywiol weithgareddau i sicrhau llwyddiant y fenter.
Erbyn hyn mae'r Gadlas wedi hen gael ei draed 'dano. Fy ngobaith ydi y gwelir yr un dycnwch ag a welwyd ddeng mlynedd ar hugain yn ôl er mwyn sicrhau ei barhâd."