BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Sir Conwy

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clytwaith a Chwiltio
Bu ond y dim i'r grefft o gwiltio a chreu clytwaith ddiflannu o'r tir yn y 19eg Ganrif ond mae dosbarthiadau ar hyd a lled y wlad erbyn hyn meddai Gwenfai Rees Griffiths o Abergele sydd yn rhedeg Dosbarth Clytwaith a Chwiltio Llangernyw.
Peggy a Gwynfor Owen
Peggy Owen o Lansannan yn dangos rhywfaint o'i gwaith clytwaith gyda'i gŵr Gwynfor yn helpu i ddangos y gwaith. next page
12345

"Er fod clytwaith bron a marw allan yn y ganrif diwethaf daeth adfywiad yn y saithdegau ar ôl dathliad dau ganmlwyddiant annibyniaeth yr UDA.

Yn debyg i lawer o bethau eraill daeth hyn dros y dŵr ac erbyn hyn mae clytwaith wedi dod yn boblogaidd iawn ym Mhrydain gyda miloedd o ferched yn cymeryd diddordeb ynddo.

Nid gorchudd i wely yn unig ydi cwilt, gellir gwneud eitemau llai, i addurno wal neu fwrdd, clustogau a bagiau.

Un o'r pethau diweddaraf ydy cerdiau post. Mae llawer o wahanol ddulliau gwneuthuriad, gwaith llaw a pheiriant. Gellir dewis gwaith traddodiadol neu gwaith cyfoes iawn. Mae rhywbeth i bawb.

Rydym wedi bod yn cynnal dosbarthiadau clytwaith yn Llangernyw dros ddeg mlynadd. Mae y mwyafrif o'r merched yna ers y cychwyn, gyda hanner ohonynt yn dod o Lansannan.

Maent yn gweithio ar brosiectau unigol, a byddaf yn eu helpu i wneud hyn. Erbyn hyn maent i gyd yn gweithio i safon uchel, ac wedi cynhyrchu llawer o eitemau.

Byddant yn cystadlu yn llwyddiannus mewn cystadlaethau lleol. Ynghyd â dosbarthiadau eraill mi fydd arddangosfa o'u gwaith yn cael ei chynnal yn Llansannan yn y gwanwyn 2008.

Gwenfai Rees Griffiths

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy