| Enw'r tîm o ben Llŷn oedd The Guild of Incompetence - camenw oedd hwn, gwnaeth y ddau Gymro y siwrnai 8000 milltir mewn mis gan ddod yn 27ain allan o 200 o dimoedd. Nid oedd y daith heb ei anhawsterau a'i rhwystredigaethau. Un o'r amseroedd caleta' i'r 'Guild' oedd bod yn gaeth mewn pentref heb dafarn yn Rwmania am chwe niwrnod. A bu bron iddyn nhw fethu cychwyn o Lundain. Gwrandewch ar Gareth yn adrodd hanes diflaniad y car ar forau'r ras!
Y fiesta'n diflannu
Wrth gwrs, dim ras fel y cyfryw yw'r Mongol Rally ond antur a chyfle i godi arian. Dylan gafodd y syniad o gymryd rhan, daeth ar draws y ras wrth syrffio'r we am bartiau i'r fan. Gareth sy'n esbonio am gynllunio'r ffordd allan - a newid cynlluniau am i Dylan anghofio papurau Moldofa! (Dylan sydd i'w glywed yn protestio yn y cefndir!) Y daith o Lunden i Ulan Batar
Wedi rhoi mil i elusenau trefnwyr y ras mae'n rhydd i bob tîm i rhoi arian i elusen o'u dewis. Dewisodd Dylan a Gareth elusen Ysbyty Bryn Beryl, ysbyty fechan yn Llŷn. Dylan sy'n adrodd yr hanes. Codi pres
Doedd y bwyd ddim yn wych, collodd Dylan stôn a hanner. Gwrandewch arno'n hybu deiet newydd hynod o lwyddiannus - bîtrwt, saim a ffa pob.
Ffa pob
Beth am neud y daith eto? Oes na Guild of Incompetence yr ail yn mynd i fod?
Gwneud y siwrnai eto? Pethau Mawr Bywyd, Dydd Sul, Tachwedd 4, BBC Radio Cymru, 12.05pm
Ail-ddarllediad Dydd Mercher, Tachwedd 7, BBC Radio Cymru, 6pm
 |