BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Porthmadog
Richard a BrynBusnes teuluol
Gyda'i gilydd, mae dau frawd sy'n rhedeg siop lysiau a sefydlwyd gan eu tad, RG Prichard, wedi bod yn gweithio yn y busnes ers bron i ganrif - Richard David ers 48 o flynyddoedd a Bryn Geraint ers 40.
Cyn hynny, y môr, nid moron, oedd yng ngwaed y teulu.

Richard David: "Mae'r busnes yn mynd nol i Mehefin 30ain, 1934, pan agorwyd y siop gan fy nhad, Richard Gruffydd Prichard fel siop greengrocer, fel mae hi heddiw.

"Roedd tua 27 oed ar y pryd.

"Doedd rhedeg siop ddim yn y teulu cyn hynny ond mi roedd fy nhaid yn shipbroker ar y cei ac mi gafodd fedal gan y Dutch Council am ei wasanaeth pan aeth ar fwrdd un o'r llongau i helpu unwaith. Roedd ein hen hen daid yn Gapten Llong.

Richard a Bryn Bryn Geraint: "Roedd Capten Prichard yn hwylio i America - hwylio pobl ran fwyaf ac roedd sôn amdano'n mynd â llechi i Hamburg ac yn hwylio ar y Gestiana. Mi fyddan ni'n clywed ambell stori am y cyfnod: roedd llongau'n mynd â llechi i'r Iwerddon adeg y Diwygiad ac yn dod â rym yn ôl a dwi'n cofio clywed stori fod mochyn Y Ship wedi meddwi ar ôl i gasgen o rym gael ei gadael yng nghefn y dafarn.

Tu allan i siop RG Prichard Richard: "Dydi'r galw ddim wedi newid rhyw lawer yn y siop dros y blynyddoedd - pethau fel cabej, coli a sbrowts. Mae brocoli yn rhywbeth rydan ni'n ei werthu rŵan nad oedden ni'n arfer ei wneud, a phupur hefyd, a doedd neb yn gwybod am ffrwythau Kiwi ar un adeg! Dydan ni ddim yn gwerthu bwyd organig, dydi pobl ddim yn gofyn llawer am hynny a deud y gwir.

Bryn: "Ond mae lot o'r bwyd yn lleol - tatws o Roslan, swêj a betys o Chwilog, moron o Benygroes. Ers talwm, roedd y llysiau'n cyrraedd yn syth i'r stesion yn Port o Covent Garden a thryciau yn dod â'r bwyd o'r stesion i'r siop wedyn.

Bryn a Richard Bryn: "Fy hoff bryd o fwyd ydy cinio dydd Sul efo moron, spring cabbage a phys slwj.

Richard: "Cinio dydd Sul ydy fy hoff fwyd i hefyd. Dwi'n licio coli, cabej a brocoli ond fy ffefryn ydy sbrowts!"


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy