Gwerthwyd Gwasg Eryri yn ddiweddar i Liz a Jim Mowatt gan Gwyn Davies, ac wrth ffarwelio dywedodd Gwyn ei fod wedi prynu'r cwmni - a enwid yn Snowdonia Press bryd hynny - oddi wrth ddyn o'r enw Pat Pottle yn nechrau'r 1970au.
Dim ond ychydig iawn a ŵyr am gefndir diddorol Mr Pottle. Roedd ymysg y 'Lavender Hill Mob' a fu'n gyfrifol am ddihangfa'r ysbïwr Sofietaidd George Blake o Wormwood Scrubs yn 1966.
Roedd yn gyfaill ac yn gymorth i'r athronydd byd-enwog, a derbynnydd y Wobr Nobel, Bertrand Russell, a bu yntau yn byw yng ngogledd Cymru hefyd.
Ac yr oedd Mr Pottle yn briod i ferch y rhedwr Harold Abrahams, enillydd medal aur yng Ngemau Olympaidd Paris yn 1924 - arwr y ffilm Chariots of Fire a gipiodd sawl Oscar.
Cyn iddo farw yn 2000 roedd Mr Pottle yn wrthryfelwr brwd ac yn llefarydd croyw o blaid heddwch. Gweithiodd i'r Committee of 100, a ffurfiwyd gan Bertrand Russell i brotestio'n ffyrnig yn erbyn arfau niwclear.
Pan ddihangodd George Blake o Wormwood Scrubs yn 1966 roedd y sefydliad Prydeinig yn llawn cywilydd. Y KGB gafodd y bai ar y dechrau, mewn ymgais i guddio'r anrhefn swyddogol. Aeth chwarter canrif heibio cyn i Mr Pottle a'i ffrind Michael Randle ymddangos o flaen llys.
Roedd Mr Pottle a Randle wedi cyfarfod Blake yn y Scrubs yn 1961 tra roedd y ddau yn treulio 18 mis yno am wrthdystio yn erbyn safle awyrennau Americanaidd yn swydd Essex.
Cydymdeimlent â Blake, nid am ei fod wedi bradychu ei wlad, ond oherwydd iddo gael ei ddedfrydu i 42 mlynedd yn y carchar; roedd y gosb yn un lem a dibwynt, honnai Mr Pottle.
Dair mlynedd ar ôl eu rhyddhau aeth Mr Pottle a Randle, ynghŷd â Gwyddel o'r enw Sean Bourke, yn ôl i'r Scrubs; taflasant ysgol wedi'i gwneud o gortyn a gweill dros y wal, a rhyddhawyd Blake. Aethpwyd ag ef dros y môr yng nghefn fan campio, ac yna gwnaeth ei ffordd i Moscow.
Yn 1987 sgwennodd Mr Pottle a Randle eu fersiwn eu hunain o'r stori - The Blake Escape - How We Freed George Blake and Why.
Pan aed â nhw o flaen yr uchel lys yn 1991, amddiffynnodd Pottle ei hun gyda'r geiriau: "Do, helpais George Blake i ddianc. Gwnes hynny am resymau dyngarol yn unig. Rwy'n meddwl ein bod yn iawn i wneud hynny. Fe wnawn yr un peth eto. Does dim ymddiheuriad i'w roi, a dydw i'n difaru dim."
Dyfynnodd ei hen ffrind Bertrand Russell: "Remember your humanity and forget the rest." Gan anwybyddu cyfarwyddyd y barnwr, penderfynodd y rheithgor eu bod yn ddieuog.
Y mae gweddw Mr Pottle, Susan, yn rhedeg siop hen bethau Eisteddfa yn Harlech, ac mae hithau hefyd yn frwd dros feithrin heddwch ac anwybyddu rhyfelgarwch - bu ar yr orymdaith enfawr yn Llundain i wrthdystio yn erbyn y rhyfel yn Irac.
Cyfarfu hi a'i gŵr yn fuan wedi dihangfa George Blake, a phriodi ymhen ychydig fisoedd. Mae hi'n brysur hyd heddiw ym maes hawliau sifil, gan farnu etifeddiaeth Blair yn hallt.
Bu Mr a Mrs Pottle yn ymweld â'r fro ers talwm - roedd Mr Pottle yn ffrindiau â'r arlunydd Tom Kinsey yng Nghroesor - a daethant yma i ymddeol yn 2000 ar ôl cyfnod yn Llundain. Gwaetha'r modd, bu farw Mr Pottle ymhen ychydig fisoedd.
Dadorchuddiwyd coffâd i Harold Abrahams yn ei hen gartref yn Golders Green, Llundain, gan ei ferch Susan rai blynyddoedd yn ôl. Diweddwyd ei yrfa fel rhedwr pan dorrodd ei goes yn 1925, ond mi roedd athletau yn bwysig iddo ar hyd ei fywyd a bu'n ohebydd yn Chwaraeon Olympaidd Berlin, gyda'r Natsïaid yn dod i rym, ac yntau'n Iddew.
Lloyd Jones