"Mae Porthmadog wedi gefeillio efo Wicklow, yn yr Iwerddon. Mi fedrwch chi weld mynyddoedd Wicklow o Ben Llŷn ar ddiwrnod clir.
"Roeddem yn teimlo bod tref yn Ffrainc neu Lydaw mor bell - diwrnod i gyrraedd Dover, croesi a diwrnod wedyn i ben draw Llydaw, mae'n lladdfa. 'Da ni'n hoffi bod yn ddigon agos i weld Wicklow weithiau, ac i hwylio draw.
"Mae'n dre reit debyg i Borthmadog, gyda'r porthladd - er eu bod nhw wedi cadw'r porthladd ar gyfer diwydiant ac allforio. Tai haf sydd o gwmpas harbwr Porthmadog yn anffodus, a dim ond un cei llechi gwreiddiol sydd ar ôl. 'Da ni wedi colli lot o'n treftadaeth yn Port sy'n anffodus iawn. Ond mae yna longau hwyliau, ac maen nhw wedi gallu datblygu ychydig ar yr harbwr i wella pethau.
"Ond roedd y Gwyddelod yn synnu faint o Gymraeg oedd yn cael ei siarad yma - nid oes cymaint yn siarad Gwyddeleg draw yn Wicklow.
"Mi gawson ni seremoni i'w croesawu nhw ar ddechrau Mehefin a mynd draw ym Medi 2006. Roedd rhaid cael cyfansoddiad a siarter, sy'n grand iawn - da ni wedi ei fframio a phopeth!
"Y gobaith yw y bydd cymdeithasau bach yn dod at ei gilydd, yn enwedig cymdeithasau chwaraeon fydd yn gallu cyfnewid timau. Mae'r posibiliadau yn enfawr.
"'Da ni wedi bod yn ffodus iawn - roedd 'na sail yn Port gan fod cysylltiad rhwng y ddau glwb hwylio, gyda clwb Wicklow yn hoffi hwylio draw i Port. Mae'n ddigon hawdd ar ddiwrnod braf i bobl Port hwylio i Wicklow - ac ar ôl gwneud cysylltiadau fel yna, roedd 'na gyfeillgarwch mawr rhwng y ddau glwb ac roedd yn fan cychwyn braf i'r trefi.
"Rydym wedi gwneud ffrindiau da - mae 'na agosatrwydd yn syth bin rhwng y Celtiaid. Mae'n argoeli'n dda am y dyfodol."
 |