BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Porthaethwy
Y Fenai a Phont y BorthRhyfeddodau Mona
Wyddoch chi beth ydy pedwar rhyfeddod Mona a pha hen chwedlau sy'n llechu yn nyfroedd y Fenai? Mae Ann Benwell wedi hel ychydig o wybodaeth ond mae arni angen cymorth i orffen y stori.
"Caiff Pwll Cerys ei grybwyll gyntaf mewn ysgrifau gan Nennius, mynach o Loegr o'r nawfed ganrif, sy'n sôn am 'bedwar rhyfeddod Mona'.

"Mae'r pwll yn cael ei ddisgrifio fel trobwll. Efallai nad yw'n drobwll go iawn, ond weithiau, hyd yn oed ar ddiwrnod digon tawel, gellir gweld y dŵr yn ewynnu mewn rhan fach o'r Fenai oherwydd y ddau lanw a'r cerrynt cryf.

"Un o'r rhyfeddodau oedd carreg gyda phwerau hudol. Efallai mai un o'r meini hir enwog oedd o - y rhai, yn ôl y gred, oedd yn crwydro yn ystod y nos, ond wastad yn dod yn ôl i sefyll yn eu llle erbyn y bore.

"Dywedir bod y garreg yma wedi ei lluchio i mewn i Bwll Cerys, ond erbyn y bore roedd wedi dychwelyd i'r tir.

"Credai fy ngŵr fod hyn yn fwy o brawf fod y Celtiaid yn lluchio pethau i mewn i ddŵr fel diolch i'r duwiau. Darganfuwyd llu o bethau o'r Oes Haearn yng ngwaelod Llyn Cerrig Bach, ger y Fali, felly mae'n bosib fod Pwll Cerys yn fan sanctaidd iawn i'r Celtiaid a'u bod yn taflu offrymau i mewn ddo - fel y garreg fawr.

"Does neb yn gwybod lle mae'r garreg yma mewn gwirionedd. Dywed Nennius ei fod yn y 'Vale of Cithein'. Nid yw'r enw yn bodoli - ond 'dwi'n siŵr ei fod wedi bod yn sialens iddo ei ysgrifennu mewn Lladin am stori a glywodd yn y Gymraeg, ac yntau'n siarad Saesneg.

"Bu sôn am faen hir pwysig yn Llanidan. Mae Gerallt Gymro yn sôn amdano ac mae'r hanesydd Henry Rowlands, gweinidog Llanidan, hefyd yn ei grybwyll felly efallai mai hon yw'r un garreg y sonnir amdani gan Nennius.

"Mae wedi mynd erbyn hyn, mae'n rhaid fod yr hud wedi diflannu!

"Mae llawer o feini hir ledled Ynys Môn. Mae un ger Four Crosses. Mae ar dir uchaf plwyf Llandegfan a thros naw troedfedd o uchder. Credir eu bod yn dyddio nôl i'r Oes Efydd, ond does neb yn siŵr beth oedd eu pwrpas. Efallai eu bod yn nodi man sanctaidd, bedd, ffin neu dir tylwyth o bobl.

"Tan y 19eg ganrif, byddai'r ffermwyr cyfagos yn eu gwyngalchu - fe fydden nhw wedi sefyll allan yn llachar yn erbyn y tir ac felly o bwys mawr i bobl.

"'Dwi ddim yn siŵr iawn beth oedd y rhyfeddodau eraill. Roedd 'na sôn am fôr heb lannau - efallai mai hwn yw'r dyfroedd rhwng Sir Fôn ag Ynys Cybi. Mae 'na hefyd gyfeiriad at 'fynydd na ellir cerdded o'i amgylch' - ond does gen i ddim sôn lle am hwnna!

"Mae'r hen ysgrifau hefyd yn sôn am Pwll Fanogl - does gen neb syniad lle'r oedd o, ond gan ei fod mor bwysig mae'n bosib iawn ei fod yn y Fenai, fel Pwll Cerys."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy