BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Porthaethwy
Arwydd Oriel TegfrynYn yr oriel
Carol Griffiths, rheolwr Oriel Tegfryn, sy'n sôn sut dechreuodd artist lleol ddangos gwaith celf yn ei thŷ ger y Fenai, gan dyfu i fod yn un o brif orielau'r ardal ar gyfer artistiaid lleol ac o Gymru gyfan erbyn hyn.

"Trefnu a chynnal noson goffi ar gyfer elusen arbennig a ysbrydolodd perchennog yr oriel Mrs Gwyn Brown, artist o Borthaethwy, i agor oriel yn ei chartref ger Afon Menai.

"Dros y blynyddoedd roedd hi wedi dod i adnabod llawer iawn o artistiaid ac yn araf cychwynnodd gasglu eu gwaith. Roedd mor awyddus i eraill eu gweld nes iddi gychwyn eu harddangos yn ei chartref ei hun.

"Yn araf mae'r arddangosfa wedi datblygu yn oriel ac mae llawer iawn o artistiaid yn cael hybu eu gwaith drwy rinwedd yr arddangosfa.

"Mae Mrs Brown bellach yn 91 mlwydd oed ac yn dal i fyw i fyny grisiau uwchben yr oriel, mae hi'n dal i ddod i'r oriel yn achlysurol i edrych o'i chwmpas ac i fwynhau gwaith yr artistiaid.

"Gwaith artistiaid o'r gogledd yn unig oedd yn cael ei arddangos yn gyntaf ond yn ddiweddar mae Oriel Tegfryn wedi ymestyn i'r de ac heddiw yn arddangos gwaith artistiaid drwy Gymru. Yn achlysurol hefyd byddai Mrs Gwyn Brown yn trefnu ymweliadau gan arddangosfeydd o'r Academi Brenhinol a byddai hynny bob amser yn codi proffil yr oriel.

"Mae pedair ystafell yn yr oriel sy'n arddangos gwaith gwreiddiol yn ogystal â phumed ystafell sydd yn arbennig ar gyfer dangos printiadau.

"Mae dros 40 mlynedd ers i Mrs Brown agor yr oriel yma ym Mhorthaethwy a 'dwi bron yn sicr mai yma y sefydlwyd un o'r orielau cyntaf yng Nghymru.

"Mae nifer yn ymweld â'r oriel bob blwyddyn.

"Mae'n lle cartrefol ac mae croeso i unrhyw un ymweld. Does dim pwysau i brynu dim, ac mae'n braf gweld ymwelwyr yn dod yma i ymlacio, ac i fwynhau celf o Gymru.

"Mae'r diddordeb mewn celf wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mwy o bobl ifanc yn gwirioni ar y byd celf ac yn barod i fuddsoddi er mwyn casglu eu casgliadau eu hunain.'

"Pobl gyfoethog yn unig a arferai gasglu darnau o gelf ond erbyn heddiw mae wedi mynd yn beth ffasiynol i bobl ifanc gasglu hefyd ac mae hynny'n beth braf. Dwi erbyn hyn yn casglu darnau o waith fy hunan."

"Heddiw mab a merch yng nghyfraith Mrs Brown, Peter a Jill Gordon Brown sydd yn rhedeg yr oriel, ac mae'r ddau'n awyddus iawn i gynnwys gwaith artistiaid newydd o Gymru yn yr oriel.

"Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae nifer o artistiaid newydd wedi arddangos eu gwaith yma ac yn ddiweddar mae'r artist Thomas Daniel Jones wedi dechrau arddangos ei waith. Mae ei waith hefyd yn cael ei arddangos yn y National Portrait Gallery."

Mae Oriel Tegfryn wedi ei leoli ar Ffordd Cadnant ym Mhorthaethwy, ar y brif ffordd i gyfeiriad Bimwares. Mae' arddangos gwaith nifer o brif artistiaid lleol: Syr Kyffin Williams, Donald McIntyre, William Selwyn, Karel Lek, Malcolm Edwards, Wilf Roberts, Gwilym Prichard, Claudia Williams a mwy. Rhif ffôn: 01248 715 128.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy