Prif atyniadau
'Porth-ddaethwy' yw'r hen enw ar y dref yn ôl un esboniad, gan mai oddi yma y byddai'r cychod yn croesi'r Fenai i Fangor - y porth o dir tylwyth y 'Daethwy'. Ond mae 'na ffordd newydd o groesi'r Fenai erbyn hyn wrth gwrs ac mae'r dref yn enwog am bont arloesol Telford, sy'n rhoi iddi ei henw Saesneg, Menai Bridge.
Gellir mynd am dro hyd glannau'r Fenai ar hyd y promenâd Belgaidd a gafodd ei adeiladu gan ffoaduriaid o Fflandrys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf sy'n eich arwain at y sarn tuag at Ynys Tysilio. Yma y mae hen Eglwys Sant Tysilio sy'n dyddio yn ôl i'r 12fed ganrif ac ar dir uchaf yr ynys mae cofgolofn Porthaethwy.
Erbyn hyn, mae'r dref yn gartref i adran Gwyddor Eigion Prifysgol Bangor,a rhan o Gyngor Ynys Môn, ac yn llawn siopau bach, tafarndai a bwytai. Cyfeiriadau defnyddiol Canolfan Gymunedol
Water St, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5DD 01248 714624
Oriel Gelf Tregfryn
Cadnant Rd, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5EN 01248 715128 Llyfrgell
Wood St, Menai Bridge, Ynys Môn, LL59 5AS 01248 712706
Pili Palas Fferm Bili Pala, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5RP 01248 712474 Ysgol David Hughes
Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5SS 01248 712287
 |