"Cafodd y band ei sefydlu a'i ffurfio yn ôl yn 1890 mewn cwt ym Mhorthaethwy. "Yn ddiweddarach yn 1903 fe brynodd arweinydd cyntaf y band, Y Capten George Senogles, gyn gapel y Wesleaid ym Mhorthaethwy fel cartref, ac yno mae'r band yn parhau i ymarfer hyd heddiw. "Mi gawson ni grant gan y Loteri Cenedlaethol am £35,000 tua phedair blynedd yn ôl, ac mae wedi bod yn gyfle i adnewyddu'r cwt sydd yn agos iawn at galonnau llawer ohonom.
"Yn 1978 roedd pethau yn edrych yn o ddu gan mai dim ond wyth o aelod oedd gennym ni. Ond fe newidiodd y sefyllfa, diolch i'r drefn!
"Erbyn heddiw mae tri dosbarth wedi ei sefydlu yma, gyda band y dechreuwyr yn cael ei arwain gan Owain Roberts, y band canolradd yn cael ei arwain gan Sue Massey, a minnau'n arwain y band uwch." "Dwi wedi bod yn aelod ers 12 mlynedd ac yn arwain erbyn hyn ers bron i bedair mlynedd. Mae'r band yn teithio i wahanol ardaloedd ar draws y wlad i gynnal cyngherddau neu i gymryd rhan mewn cystadleuthau, ac mae'n gyfnod arbennig iawn inni gyd. "Rydyn ni'n cyfarfod yn y cwt ar wahanol adegau yn ystod yr wythnos gyda'r prif fand yn cyfarfod ar nos Lun a nos Wener. Dwi'n chwarae'r cornet ers dros 20 mlynedd ac mae'n rhan mawr o fy mywyd. Ar y nosweithiau pan does na ddim ymarfer mi fydda' i'n chwarae i Fand Biwmares. Rydw i bron yn chwarae cornet yn fy nghwsg. "Mae'n braf gweld bod y band yn parhau i fynd o nerth i nerth hyd heddiw a llawer iawn yn ymuno â ni bob blwyddyn. "'Does dim yn well nag ymuno â band, nid yn unig mae'r aelodau yn cael gwneud yr hyn y mae nhw'n ei fwynhau fwyaf ond hefyd mae'n gyfle i gael bod yng nghanol yr hwyl a'r miri. Mae'n fendigedig."
 |