"Daeth fy hen hen daid i Benmaenmawr gyda'r rheilffordd yn y 1850au. Ddaru o gyfarfod ei wraig, o Bentraeth, a rŵan mae yna 250 o ddisgynyddion! Roedd yn gweithio yn y chwarel, fel fy hen daid, fy nhaid, fy nhad a minnau. Roedd dros fil o ddynion yn gweithio yna yn y 1930au ac roedd mor beryglus â'r chwareli llechi. Anafiadau oherwydd y blastio neu syrthio oddi ar y clogwyn oedd y damweiniau fel arfer.
Ond roedd y gymdeithas yn un glòs, gyda chorau meibion, cymysg, merched a phlant yma, yn ogystal â'r seindorf.
Roedd fy hen daid a fy nain ar yr ochr arall yn rhedeg tafarn y Victoria ym Mhenmaenmawr - rhes o dai Victoria Crescent sydd yno rŵan.
Ond roeddem ni fel teulu yn byw yn Nwygyfylchi.
Dwygyfylchi yw'r enw ar y plwyf i gyd. Penmaenmawr yw'r mynydd, ond pan ddaeth y rheilffordd, doedd y Saeson ddim yn gallu ynganu Dwygyfylchi felly fe wnaethon nhw alw'r orsaf, ac felly'r dref, yn Penmaenmawr.
Mae pentref Dwygyfylchi ar fap John Speed o'r 1600au. Mae ger Bwlch Sychnant, yr unig ffordd oedd ar gael i ddod drwy'r mynyddoedd rhwng Conwy a'r pentref. Ddaru'r peiriannydd Sylvester adnewyddu'r bwlch ar gyfer y lôn goets a dyna pan yr adeiladwyd y ddwy dafarn sy'n dal yno heddiw - y Dwygyfylchi a'r Fairy Glen.
Roedd gan Ddwygyfylchi Home Guard yn ysod y rhyfel hefyd. Dwi'n cofio fy nhad yn mynd ar manoeuvres yn y mynyddoedd - roedd yn rhaid iddynt hyfforddi am o leiaf 16 awr y mis, rhag ofn i'r Almaenwyr ennill mae'n rhaid.
Mae'r pentref wedi tyfu lot ers pan oeddwn i'n fach.
Dechreuodd y cyngor adeiladu tai cownsil yn y 1930au ac ailgychwyn eto ar ôl y rhyfel ac mae Dwygyfylchi wedi dyblu a threblu mewn maint. Ond mae yna lai o siopau yma rŵan. Ers talwm roedd siop groser Tom Jones a swyddfa bost yn cael ei rhedeg gan ddwy chwaer - Miss Heulwen Davies a Mrs Harriet Owen.
Ger Dwygyfylchi, y tu ôl i chwarel Penmaenmawr y mae'r meini hirion. Y Druid's Circle maen nhw'n galw nhw yn y Saesneg ond mae hynny'n anghywir. Nid cerrig y derwyddon ydynt, ond rhai ar gyfer addoli'r haul sy'n mynd yn ôl i Oes y Cerrig.
Fe wnaeth archeolegwyr gloddio y tu fewn i'r cylch a darganfod burial urns, gyda gweddillion plentyn tua 12 mlwydd oed a chyllell bach. Maen nhw'n credu mai aberth crefyddol oedd o. Mae'r darganfyddiadau yma yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd rŵan.