"'Dwi ar fy wythfed flwyddyn o redeg 'Light Up Pen'. Agor am naw wythnos wnes i'n wreiddiol i hel arian at gael goleuadau Nadolig i'r dref, a dwi'n dal yma! Mae pob elw rydan ni'n ei wneud yn mynd at wella'r dref neu at elusennau lleol fel yr Ambiwlans Awyr, Tŷ Gobaith, Hosbis Dewi Sant, Plant Mewn Angen, MacMillan - rhywun sy'n gofyn i ni am help.
Gawson ni raffl car i hel arian i ddechrau, ac roeddwn wedi bod yn sefyll tu allan yn yr oerfel yn gwerthu tocynnau nes i fan hyn ddod yn wag ac mi wnes i benderfynu ei gymryd am ychydig er mwyn hel arian allan o'r gwynt. A dwi'n dal yma. 'Dwi ddim yn cymryd cyflog, ond mae ffrindiau yn dod i mewn i fy helpu.
'Dwi erioed wedi rhedeg caffi o'r blaen, ond mae pethau fel hyn yn dŵad i chi - wrth iddo dyfu yn araf bach dros y blynyddoedd.
'Da ni ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, o 9.30am i 1.30pm, ond weithiau mae wedi tri o'r gloch cyn i mi adael.
Fe fuaswn i wedi hen gau, ond does unlle i bobl i fynd - does yna ddim caffi arall yma i ddweud y gwir, yn enwedig wrth i'r dref cael ei wneud i fyny. Efallai, pan mae popeth yn barod ar y stryd fawr y daw rhywun yma i agor caffi go iawn, ond ar hyn o bryd mi wnâ i barhau cyn hired ac y gallaf, er fy mod yn 70 erbyn hyn ac mae'n mynd yn lot o waith.
'Da ni'n cynnal boreau coffi, bingo, raffl - fedrwn ni ddim gwneud bob dim i bawb ond rydan ni'n gwneud cymaint ag y gallwn."
Pobl y caffi
Mae nifer yn galw draw i gaffi Light Up Pen am baned a sgwrs, gan gynnwys Leslie Ifans o Benmaenmawr, sy'n dweud hanes gwaith a diwydiant yn y pentref:
"Mi ges i fy ngeni yma, symud i Lanfairfechan oan oeddwn yn bump oed cyn dod yn ôl yma i weithio yn y chwarel. Roedd peth goblyn o bobl yn gweithio yno yr adeg honno - 'da chi'n sôn am dros fil o bobl yn 1956.
Chwarel granite (ithfaen) ydy o. Hwnna sy'n cael ei ddefnyddio i roi balast i'r rheilffordd neu waelod i'r lonydd. Byddwn yn ei flastio o'r mynydd, wedyn mynd a fo drwy'r crushers i'w dorri lawr i ryw hanner modfedd. Byddai loris neu drenau yn mynd â fo ledled Prydain.
Roedd 'na gymeriadau yn y chwarel: Wil Job, Bobby Fat a Twm Christmas!
Roeddwn i'n gyrru loris yn y chwarel, cyn mynd i Hotpoint i weithio draw yn Llandudno Junction. Roedd lot o Pen yn gweithio fa'na, yn gwneud washing machines i Ganada, Awstralia ac Affrica.
Mae colli cymaint o swyddi yn y chwarel - oherwydd dulliau newydd o weithio - wedi cael effaith ar y pentref. Mae llefydd wedi eu bordio a'r eglwysi wedi cau - mae'r oes wedi newid. Mae hyd yn oed y capeli a'r eglwysi wedi cau ond fe wnaethon ni gwffio i gadw Eglwys Dewi Sant, yr eglwys Gymraeg, ar agor. Cafodd ei hadeiladu dros gan mlynedd yn ôl gan y chwarelwyr, oedd yn rhoi ceiniog yr wythnos heibio ar ei chyfer - eglwys y bobol ydy hi."