Roedd Manawydan a Pryderi allan yn hela efo Rhiannon a Cigfa. Pan oedden nhw'n dod adra i Ddyfed, roedden nhw'n gweld bod rhywun wedi rhoi hudoliaeth ar Ddyfed ac wedi gwneud i bawb heblaw hwy ddiflannu. Roedden nhw'n mynd i Loegr ac roedd Manawydan a Pryderi yn gwneud cyfrwyau i wneud arian. Ond roedden nhw'n rhy dda yn eu crefft, ac roedd y dynion yn y ddinas a oedd yn gwneud cyfrwyau cynt yn ceisio eu lladd nhw, o achos doedd neb yn prynu eu cyfrwyau hwy. Gadawodd y pedwar ohonynt y ddinas, felly, a symud i ddinas arall. Roedd Manawydan a Pryderi yn gwneud esgidiau. Dyma lle digwydd y sgwrs ganlynol: Manawydan: Mae'n rhaid i ni adael Lloegr. Pryder: Pam? Manawydan: Mae'r dynion sy'n gwneud esgidiau yn y ddinas yma yn ein casáu ni achos does neb yn prynu esgidiau heblaw am ein hesgidiau ni. Mae ein hesgidiau ni yn rhy dda. Pryderi: Ond roedd hyn yn digwydd y tro diwethaf, pan oeddan ni'n gwneud cyfrwyau yn y ddinas arall. Manawydan: Dwi'n gwybod. Ond dwi'n meddwl y bydd yn rhaid i ni adael eto. Mae gen i ofn iddynt geisio ein lladd ni. Pryderi: I ble'r awn ni? Manawydan: Beth am fynd yn ôl i Ddyfed? Pryderi: 'Dan ni ddim ym gallu mynd yn ôl i fano, does 'na ddim byd yno i fynd yn ôl iddo. Manawydan: Dwi'n gwybod, ond yno mae ein gwreiddiau ni. Rydan ni'n berchen ar Ddyfed. Mae 'na hudoliaeth yno, rydan ni wedi cuddio am ormod o amser, rhaid i ni fynd yn ôl a gwneud rhywbeth i dorri'r hudoliaeth. Pryderi: Efallai dy fod ti'n iawn, ond mae'n rhaid i ni ofyn i Rhiannon a Cigfa cyn penderfynu. (Mae Rhiannon a Cigfa yn dod i mewn)
Rhiannon: Gofyn i ni be? Cigfa: Ia, am beth wyt ti'n siarad? Manawydan: Dydan ni ddim yn gallu aros yma. Mae'r cobleriaid yn y ddinas yn flin oherwydd fod pawb yn prynu ein hesgidiau ni. Pryderi: Rydan ni ofn iddyn nhw drïo ein lladd ni. Rhiannon: Beth ydan ni'n mynd i'w wneud? Manawydan: Dwi'n meddwl bod yr amser wedi dod i ni fynd yn ôl i Ddyfed. Cigfa: Beth? Manawydan: Gwranda arna i am funud. Mae hyn wedi digwydd o'r blaen, ac os ydan ni'n mynd i rywle arall yn Lloegr, dwi'n siŵr y bydd o'n digwydd eto. Ond, ar y llaw arall, rydan ni'n byw yn Nyfed, ac mae'n rhaid i rhywun dorri'r hudoliaeth yno, a does yna neb a all wneud Rhiannon: Dwi'n meddwl dy fod ti'n iawn. Dwi'n cytuno efo ti. Cigfa: Dwi'n cytuno os ydi Pryderi yn cytuno hefyd. Manawydan: [i Pryderi] Beth wyt ti'n feddwl? Pryderi: Dwi ddim yn gwybod. Pam na wnawn ni ladd y cobleriaid os fydda nhw'n ymosod arrnan ni? Rhiannon: Paid a bod yn wirion. Mae yna lawer mwy ohonyn nhw. Does ganddo ni ddim siawns. Cigfa: Ac mae'n rhaid i ni drio helpu Dyfed, Pryderi. Pryderi: Iawn, ond sut ydan ni'n mynd i fyw yna? Manawydan: Gallwn dyfu bwyd, a hela a physgota. Fe fydd yn anodd, ond daw yn haws, a bydd yn haws na dechrau eto mewn dinas arall, ac yna symud ymhen rhai misoedd o achos dydyn nhw ddim yn ein hoffi ni ychwaith. Allwn ni ddim. Pryderi: Rwyt ti'n iawn. Dechreuwn am Ddyfed yn y bore. Manawydan: Iawn.
 |