BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Colin FarrellAdolygu Ffilmiau
Aled Hughes a Rhydian Lewis yn adolygu Phonebooth a Van Helsing.
Phonebooth
Ydach chi wedi gweld y ffilm Phonebooth? Naddo? Wel rydw i am roi fy marn arni.

Mae'r ffilm yn cynnwys yr actor talentog Colin Farrell fel y prif actor sydd yn gweithio fel cynhyrchydd arno, ac yn mynd i'r bocs ffôn i ffonio'i gariad.

Ar ôl gorffen ar y ffôn, mae'r ffon yn canu eto, mae Colin Farrell, sy'n chwarae rhan Stu yn codi'r ffon ac mewn rhyw lais dwfn yn dweud wrtho:

Isn't it funny, when you hear a phone ring somebody has to answer it.

Mae'r dyn ar ochr arall y ffon yn bygwth Stu i ddweud wrth ei wraig ei fod yn cael perthynas gyda dynes arall. Mae'n bygwth saethu Stu. Ynghanol y ffilm mae yna ddynes eisiau defnyddio'r ffon, ond tydi Stu ddim yn cael rhoi'r ffôn i lawr.

Daw dyn draw i'r bocs ffôn, a thynnu ar Stu, ac mae rhywbeth yn digwydd i Stu ... Bydd yn rhaid i chi wylio'r ffilm i ddarganfod mwy.

Tystysgrif oedran y ffilm yw 15, ac mae'r ffilm yn para ryw awr a chwarter o hyd, ac yn sicr yn werth gwario'r amser yn ei gwylio.

Aled Hughes

Van Helsing

Yn ddiweddar, fe welais i'r ffilm Van Helsing. Ffilm gyffrous ydyw, gan gynhyrchwyr y ffilmiau The Mummy a The Mummy Returns ydi hon.

Mae'n sôn am ddyn o'r enw Van Helsing sy'n mynd i Transylvania i ladd Count Dracula. Ar ei daith, mae'n dod ar draws anghenfil Frankenstein, Warewolf, a lIawer o greaduriaid brawychus eraill.

Hugh Jackman sy'n actio Van Helsing, ac mae un o actorion Lord of the Rings yn y ffilm yma hefyd.

Mae'n ffilm ofnus, cyffrous a thywyll, ond, efallai ychydig yn hirwyntog tua'r diwedd. Nid yw'r sgript na'r stori yn wych, ond mae'r effeithiau arbennig yn gwneud i fyny am hynny. Nid hon yw'r ffilm orau i mi ei gweld erioed, ac nid oedd yr acenion gan yr actorion yn gredadwy iawn ychwaith. Ond, er hynny, roedd digon o ymladd, neidio, ac antur yn y ffilm i'm cadw i'n Sadwrn glawog!

Rhydian Lewis



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy