"Hwntw o Donypandy ydw i. Roeddwn yn un o ddeg o blant - pum merch a phum bachgen. Aeth fy mhump brawd i ryfel ond yn ffodus iawn - yn enwedig i Mam gan iddi bron â thorri ei chalon yn poeni - daethon nhw i gyd yn ôl yn saff. Mae'r bois i gyd wedi mynd rŵan ond mae gen i ddwy chwaer sy'n dal yn fyw. "Roedd pawb yn meddwl y byddai'r byd yn gorffen pan ddaeth y rhyfel ond wnaeth o ddim. Mi wnes i aros yn y coleg cyn cael swydd yn Derby.
"Roeddent yn adeiladu injans Rolls Royce ar gyfer awyrennau yn y ddinas felly roedd yn darged i'r bomio. Roedd balŵn amddiffyn (barrage balloon) mawr dros y ddinas a phan ddechreuodd y gynnau byddai pawb yn tyrru i mewn i warchodfeydd - ydych chi'n gallu fy nychmygu i mewn het fach tun?
"Byddwn yn mynd i'r capel bob dydd Sul. Roedd 'na gapel bach Cymraeg yng nghanol y ddinas - dim ond un stafell fach oedd hi. Mi es i a fy ffrind un nos Sul, a ddaeth criw o filwyr i mewn ac eistedd gyferbyn â ni. Roeddem yn gallu clywed y gynnau tu allan ac roedd ganddon ni ofn, felly fe wnaeth dau o'r milwyr gynnig ein cerdded ni adref i sicrhau ein bod yn ddiogel! A dyna pryd y gwnes i gyfarfod fy ngŵr, oedd yn Gog! Roedd ei gyfaill yn frawd i Richie Thomas, y canwr o Benmachno.
"Mi wnes i dreulio lot o amser wedyn yn coginio ar gyfer y milwyr yn eu cantîn. Byddent yn cyrraedd o Dunkirk yn eu gwisg glas golau ac roedd wastad gofyn i ni roi gwaed ar gyfer y rhai oedd wedi eu hanafu.
"Roedd fy ngŵr i ffwrdd am bum mlynedd - yn Affrica ac yna ar yr orymdaith drwy'r Eidal i Rufain. Byddem yn sgwennu at ein gilydd bob dydd, ar y cardiau bach roeddech yn cael eu hanfon. Pan fyddwn i'n derbyn y cardiau, roedd 'na farciau pensil drwy rhai geiriau os oedd fy ngŵr wedi dweud rhywbeth na ddylai.
"Roeddwn yn disgwyl iddo ddod adref ar ôl i'r rhyfel orffen ond cafodd ei anfon i Lain Gaza, lle mae'r holl ymladd rŵan. Bu bron iddo dorri ei galon. Mi ddaru lwyddo i ddweud wrtha'i ble'r oedd o drwy 'sgwennu 'I'm now where you're sowing beans in Welsh' - wel, 'hau' ydy 'sowing' a 'ffa' yw 'beans' - roedd o yn 'Haifa'! Doedd y sensor ddim yn gallu siarad Gymraeg felly mi adawodd y wybodaeth yna i fod!
"O'r diwedd, cafodd ei anfon adref am wyliau. Roedd o'n wan ac yn sâl iawn ond pan aeth i'r swyddfa addysg, doedden nhw ddim wedi derbyn ei bapurau felly roedd yn rhaid iddo fynd yr holl ffordd nôl i Israel. Ond pan gyrhaeddodd, ddaru o ddarganfod fod ei bapurau wedi cael eu hanfon yn ôl i Gymru ac felly adref â fo eto.
"Cafodd swydd ym Methesda felly i'r gogledd â fi. Dysgais yn Ysgol Deiniol, Bangor - yr hen ysgol secondary modern sydd nawr yn llyfrgell y brifysgol. Ddaru ni wedyn uno gydag Ysgol Friars fel ysgol gyfun yr ardal. Roedd hyn yn syniad da - roedd nifer fawr o'r plant aeth i Ysgol Deiniol yn ddigon peniog i fod yn Friars ond eu bod wedi methu un arholiad pan roeddent yn un-ar-ddeg mlwydd oed.
"Yna, es i weithio i Ysgol Tryfan a, chan fod fy ngŵr yn brifathro ar ysgol gynradd Talysarn, ddaru ni symud i'r pentref. Dwi'n dal yn byw yn yr un tŷ y gwnaethon ni symud iddo bumdeg mlynedd yn ôl.
"Ers talwm, doedd dim teledu felly yn y capel roedd pobl yn cymdeithasu. Roedd eisteddfod yn cael ei chynnal bob blwyddyn yng nghapel Talysarn ac roedd yr Ysgol Sul yn reit llewyrchus.
"Yno y bydden ni'n dysgu pwy oedd yn sâl, pwy oedd yn yr ysbyty, pwy oedd angen cymorth. Felly diolch ein bod yn gallu dod yma i Glwb Silyn (clwb ar gyfer henoed Talysarn) y dyddiau yma. 'Da ni'n colli cael y cyfle i weld pobl a dod i adnabod ein gilydd a dyna beth rydym yn ei wneud fan hyn."