| Fe ddaeth dros 20 o ddysgwyr a'u tiwtoriaid ar y bws i wybod mwy am yr ŵyl drwy gael cwis, dysgu geirfa newydd a mynd ar y we ac mi gawson nhw gyfle i ennill tocynnau i faes yr Eisteddfod ac i drïo cystadleuaeth arall i ennill tocynnau i weld Bryn Terfel yn y Pafiliwn ar wefan Lleol. Bu'r bws yn Ysgol Gymuned Moelfre yn y bore cyn symud i Lôn Goch, Amlwch, yn y prynhawn. Enillwyr y tocynnau i'r maes oedd Sian Wilson a Geraint Williams sy'n dilyn cwrs Wlpan ym Moelfre, ac Ian Hazelhurst sy'n dilyn cwrs Wlpan yng Nghemaes - llongyfarchiadau iddyn nhw. Roedd y sesiwn yn un o nifer sydd wedi eu trefnu gan Fwrdd yr Iaith mewn partneriaeth â'r BBC a Phrifysgol Bangor ar hyd a lled y gogledd orllewin i godi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod.
 |