BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Moelfre
Cychod lliwgar ym Moelfre (© Bwrdd Croeso Cymru)Moelfre ar y map
O drefnu teithiau tywys, codi cofeb, creu gwefan a chyhoeddi cylchlythyr rheolaidd i bobl leol, dydi aelodau Partneriaeth Moelfre ddim yn rhai i orffwys ar eu rhwyfau.
Criw o tua 30 o bobl leol ydy'r bartneriaeth sydd wedi penderfynu cymryd y cyfrifoldeb dros ddyfodol eu pentref drwy ddatblygu prosiectau i ddenu ymwelwyr a gwarchod eu treftadaeth.

Ewch i wefan y bartneriaeth am ragor o wybodaeth neu cadwch lygad allan am y cylchlythyr, Newyddion Moelfre, sy'n cael ei ddosbarthu yn yr ardal bob chwarter.

Derlwyn Hughes, cadeirydd y bartneriaeth, sy'n egluro beth sydd ar y gweill yn y pentref prysur am y misoedd nesaf:

"Mae amryw o bethau ar y gweill yn y pentref ar hyn o bryd:

1. Ymddangosodd cerdd gan y Prifardd Dic Jones i Dic Evans yn Golwg, ac fe sgwennais iddo yn gofyn iddo ei sgwennu yn ei lawysgrifen ei hun. Fe wnaeth hynny ac mae'r gerdd hefyd wedi ei theipio a'i fframio ac maent yn edrych yn wych. Mae yna un yn yr ysgol, un yn Anne's Pantry, ac un arall i'r Wylfan dros y Pasg.

Y Cyng. Derlwyn Hughes yn dosbarthu'r cylchlythyr yn yr Wylfan2. Taith gerdded tywys yr haf yma yw Taith Archeolegol efo'r Archeolegydd lleol Neil Fairbairn sy'n aelod o Bartneriaeth Moelfre yn gyfrifol am lunio'r daflen.

3. Mae criw bychan yn mynd i leoli mainc a phlac wrth safle trychineb yr Hindlea yn ystod yr Haf.

4. Rydyn ni'n cydweithio i ystyried gosod plac i goffáu Joio Riggieri, llongwr ar long y Royal Charter fu foddi wrth geisio achub bywydau o'r drychineb honno, un o Malta oedd o a chyfeirir ato yn anghywir yn un o'r llyfrau coffáu fel 'Rodriguez'.

5. Bwriedir cynnal darlith goffa yn yr Hydref i'r diweddar Aled Eames - mae trafodaethau ymlaen ar hyn o bryd i drefnu'r achlysur.

6. Mae Gwilym Hawes, yr hanesydd lleol, yn gweithio ar ein hail llyfryn yn y gyfres yn dilyn cyhoeddi llyfryn yr Hindlea ac Eglwys Llanallgo a'i gysylltiad â'r Royal Charter a fydd allan yn Hydref 2005.

Tan tro nesa, felly!"
Derlwyn Hughes

  • Mwy am deithiau tywys hanesyddol Moelfre


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Adolygiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy