BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanrwst
Siop ffrwythauHen siopau'r dre
Dewch i hel atgofion am hen siopau Llanrwst yng nghwmni plant o Dŷ Inigo, yn llyfryn Cymdeithas Hanesyddol Llanrwst a'r Cylch.

Ar gyfer un gystadleuaeth yn Eisteddfod yr ysgol buom yn brysur yn casglu enwau hen fasnachdai'r dref. Cawsom eu henwau a'u hanes gan bobl sydd yn eu cofio rhwng 50 a 70 mlynedd yn ôl. Y mae gennym enwau a hanes dros gant o hen siopau:

Y mae yma rai siopau newydd, a daeth amryw o'r cwmnïau mawr i agor masnachdai yma. Ond y mae llawer masnachdy yn hen iawn, a rhai heb newid eu natur ers llawer o amser, fel London House, Tan y Pendist a Dwyryd Stores.

Cawsom fenthyg rhai darluniau hen a diddorol iawn. Roedd un ohonynt yn dangos y Sgwâr cyn adeiladu Banc y Midland na London House. Rhes o dai oedd yno. Mewn darlun arall gwelid lluniau rhai o siopwyr y dref wedi cael trip i Lyn Geirionydd. Enwau rhai o'r dynion hynny sydd ar y siopau heddiw, fel E. Lloyd Jones a W.S. Williams.

Y tro hwn rhoddwn hanes hen fasnachdai y Sgwâr:

Regent House
Dyma'r fan a elwir Peacock's Stores heddiw. Siop Dilledydd arferai fod yma, ac y mae rhai o'r teulu a gadwai y siop yn byw yn Llanrwst heddiw. Cyn agor busnes yma, bu'r perchennog yn cadw siop ddillad lle mae'r Star heddiw. Ar un adeg, a chyn adeiladu'r adeilad presennol, yr oedd siop clocsiau yma, a chlocsen fawr yn hongian uwchben y drws.

Ifan Jones, y Clocsiwr, a gadwai'r busnes, ac yn ddiweddarach symudodd i Feather's Stores.

Ar y gornel hon yr oedd dwy siop Groser hefyd - Stanley House a Siop William Owen. O'u blaen yr oedd palmant llydan o gerrig 'cobblestones', ac ar hwn y gwerthid ieir ar Ddiwrnod Ffair a Marchnad.

Siop John Thomas, Saddler
Yr oedd rhwng Penybryn a lle mae Irwins heddiw. Adeilad bach ar y palmant ydoedd, ac wedyn bu siop crydd yno.

Victoria House
Yma mae siop Irwins heddiw. Cedwid siop Groser yma gan R. Roberts. Yr oedd yma fath o 'Dairy' hefyd, a chedwid y gwartheg yn y cefn.

Siop Fferyllydd John Pugh Jones
Central Cafe sydd yn y fan hon heddiw.

Steam Packet Entry
Yr oedd hwn rhwng Manweb a London House. Dywedir fod yna lwybr at y lle y byddai'r llongau yn dod i fyny'r afon. Safai rhes o dai yma, ac yn un cedwid siop Teisennau.

Boots
Cyn i Boots, Fferyllwyr, ddod yma, cedwid siop Fferyllydd gan Mr G.R. Jones, a chyn hynny gan Mr Isgoed Jones.

Gwydyr House
Busnes dilledydd arferai fod yma, yn cael ei gadw gan Robert Williams.

Sheffield House
Saif ar y gornel rhwng Stryd y Bont a'r Sgwâr. Siop Ironmonger oedd yma ers talwm, ac ar ôl hynny, siop dillad.

Canhwyllwr
Trigai Morris Jones, y Canhwyllwr, yn Heol yr Eglwys. Yno y gwerthid canhwyllau, ond rhywle tua Cae'r Graig y gwneid hwynt.

Llythyrdy
Tua hanner can mlynedd yn ôl, yr oedd Llythyrdy yn y fan y mae Gwydyr Cafe yn awr. Scorpion oedd y postfeistr. Yr oedd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr. Bu ei ferch hefyd yn gofalu am y Llythyrdy yno, ac ar ôl hynny yn gweithio yn y Swyddfa newydd yn Ffordd y Stesion.

Tan-y-Pendist
Y mae hon yn hen, hen siop, gyda'r un math o fusnes ers llawer o flynyddoedd.

Siop Hadau
Gwerthid hadau, ysgubau, llinyn, a phethau felly gan Mr Wynne (tad y ddiweddar Mrs Arthur Jones, Y Bull) yn y fan lle mae siop Manweb. Wedyn bu siop ddillad yno.

London House
Y mae hwn yn hen fasnachdy adnabyddus. Ar ddechrau'r ganrif yr oedd tua hanner cant o bobl yn gweithio yma, a byddai llawer o'r gwasanaethwyr yn byw gyda'i gilydd mewn tŷ cyfagos.

Siop y Dynion (London House yn awr)
Siop clocsiau a gedwid yma gan R.R. Hughes. Garston House oedd enw'r lle.

Crown Buildings
Cedwid siop Oriadurwr (Watchmaker) i fyny grisiau cerrig lle mae siop Marie heddiw. Yr oedd hyn cyn ail-adeiladu y gornel. Yn y tŷ nesaf yr oedd tafarn y Crown.

Compton house
Siop ddilladau plant oedd yma, a chedwid hi gan rieni y diweddar Mr Alfred Hughes, Cremlyn.

Casglwyd gan Blant o Dŷ Inigo.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy