Un o'r cystadlaethau yn Eisteddfod yr Ysgol eleni (1954) oedd casglu enwau hen dafarndai Llanrwst. Mewn ysgrif ar Grefftau a Diwydiannau Dyffryn Conwy dyma un peth a ddywedir gan Mr Bob Owen, M.A.:
'Hynodid Llanrwst gan ei bragwyr a'i darllawyr. Yn 1786 yr oedd David Roberts yn darllaw cwrw cartref i gylch eang, a rhwng 1820 ac 1880 yr oedd cymaint â saith yn byw ar ddarllaw cwrw a bragu. 'Yn 1880 yr oedd gan Tomos Elias ddarlladwy (brewery) yn Willow Street. Mewnforid at ei gilydd 43 tunnell o borter a chwrw i Drefriw tua chanol y ganrif ddiwethaf.' Wrth gofio hefyd fod Llanrwst yn ganolfan naturiol i'r Dyffryn, a bod yma farchnad bwysig a lle prysur, hawdd deall sut y codwyd cymaint o dafarndai yma. Dyma dafarndai presennol y dref: Queens, Albion, New Inn, Red Lion, Penybryn, Union, Penybont, Eagles a Victoria. Rhoddwn restr o'r rhai sydd wedi eu cau, neu wedi peidio â bod yn dafarndai, a nodwn ar ôl enw pob un pa dŷ neu siop sydd yn y fan honno heddiw. Heol Watling: Cambrian Vaults (Barclays Bank)Coach and Horses (Derlwyn) Heol Ddinbych: Swan (Mayfair a siop Mr Berry)Feathers (Feathers Stores)Harp (Harp Stores)Y Sgwâr: Crown (Siop Mr Scriven Williams)Bull (Bull - siop Cigydd)Star (Siop Bradleys)King's Head (Tŷ bwyta)Hand (Hand - siop Cigydd)Steam Packet (tu ôl i le Manweb)Stryd y Stesion: Boar's Head (Siop Lance)Royal (Meysydd)Stryd y Bont: Black Horse (Bon)Boot (Rhwng y Bon a'r Union)George and Dragon (Lle Mr Lewis, Vet)Victoria Tap Room (ar gyfer y Bont)Eagle's Tap Room (Eagle's Cottage)Glan Conway (Swyddfa London & Lancs. Insurance). (Dywed rhai mai enw arall ar y lle hwn oedd Joiner's Arms.)Stryd Plow: Tafarn Gelyn. Clywsom y gwerthid cwrw mewn rhai tai ar un diwrnod o'r flwyddyn yn unig, sef diwrnod y Ffair Fawr (Mehefin 21ain). Er mwyn dangos hynny, rhoddid cangen o gelyn i hongian uwchben y drws. Dywedir y gwneid hyn mewn tŷ yn Stryd Plow.Buom yn holi a oedd tafarndai yn Fourcrosses, y Brewery, a'r Walk. Deallwn fod yna siop 'Wines and Spirits Stores' yn yr ystafell odditan Argraffdy y Meistri J. Lloyd Roberts a'i Gwmni. Hyd y gwyddom, nid oedd tafarn yn Fourcrosses nac yn y Walk. Plant Inigo a St Grwst, Ysgol Fodern 1954
 |