"Dwi'n 17 ac eisiau bod yn baramedig yn y dyfodol, felly dwi'n gwneud gwaith gwirfoddoli efo Ymatebwyr Cyntaf Dyffryn Conwy. Er fod yn rhaid ichi fod yn 18 i fod yn aelod llawn, dwi'n helpu allan gyda chymorth cyntaf mewn digwyddiadau mawr ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r prosiect.
"Diben y prosiect yw ceisio sicrhau fod rhywun gyda sgiliau cymorth cyntaf yn cyrraedd claf o fewn amser byr ar ôl galw ambiwlans. Rydym yn gwasanaethu ardal o radiws o 10 munud. Mae cyrraedd cyn yr ambiwlans yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr pan fo rhywun yn cael trawiad ar y galon neu anhawster anadlu.
"Felly mi fydd pâr o wirfoddolwyr yn ymateb i bob galwad. Maent wedi cael hyfforddiant gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru mewn defnyddio defibrillator, rhoi ocsigen a mwy.
"Rydym felly am i bawb wybod am y cynllun, a gwybod beth i'w ddisgwyl pan mae rhywun o Ymatebwyr Cyntaf yn troi i fyny. Rydyn ni'n gwisgo crys-T coch, trywsus du a siaced gwyrdd a melyn.
"Rydym wastad yn chwilio am wirfoddolwyr. Does dim rhaid i chi allu gyrru, ond os nad ydych mae'n bwysig eich bod yn byw o fewn Llanrwst ac â'r gallu i gyrraedd y claf yn gyflym. Mae'n rhaid i chi fod rhwng 18 a 70 i wirfoddoli ac er fod pawb yn cael hyfforddiant gan y Gwasanaeth Ambiwlans, mae gwybod 'chydig am gymorth cyntaf yn help."
 |