| "Merch i Lywelyn ap Gruffydd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) ac Eleanor de Montfort oedd Gwenllian, ond bu farw ei mam wrth roi genedigaeth iddi.
Cafodd Gwenllian ei herwgipio yn hogan fach iawn gan y Saeson fel nad oedd gan Lywelyn ap Gruffydd ychwaneg o ddisgynyddion - gan felly roi diwedd ar linach y tywysogion Cymreig.
Cafodd ei dal yn garcharor yn lleiandy Sempringham ger Lincoln nes iddi farw yn 53 mlwydd oed. Nid oedd yn gallu siarad Cymraeg a welodd hi erioed ddyn. Byddai'n gweddïo trwy'r dydd, weithiau o dri o'r gloch y bore tan amser gwely.
Ddaru criw ohonom benderfynu mynd i weld bedd Gwenllian sy' mewn mynwent ger eglwys fach yn y wlad, tua phedair milltir tu allan i Lincoln. Dyn o Aberystwyth sy'n byw yn yr ardal sy'n edrych ar ôl y bedd a ddaru ni ganu emyn bach a gadael blodau iddi. Daw'r garreg fedd yr holl ffordd o Flaenau Ffestiniog - mae'n rhaid ei bod wedi costio lot i ddod â fo mor bell." Mwy o wybodaeth ar wefan Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian Newyddion: Galw am enwi mynydd ar ôl tywysoges
 |