BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanfairfechan
Eglwys y Santes Fair
Er mai dim ond 12 oed yw Robert Jones mae'n ymddiddori yn hanes ei ardal ac wedi gwneud astudiaeth fanwl o Eglwys y Santes Fair a Christ sydd ar Ffordd Aber, Llanfairfechan.
Eglwys y Santes Fair a Christ
Adeiladwyd Eglwys y Santes Fair a Christ yn 1864. next page
12345678

"Adeilad trawiadol gyda meindwr uchel. Adeiladwyd yn 1864 gan C&J Shaw o Saddleworth, ar gost Mr Platt.

Ariannwyd hefyd gan Richard Luck ac eraill.

Cysegrwyd gan Arglwydd Esgob Bangor ar Awst 5ed 1864.

Mae yma sgrîn o waith haearn gyrr, rhoddedig gan Col. Platt ym mis Awst 1894 er cof am ei fab a foddodd yn India yn 1893. Ceir gwaith coed hefyd yn seddau teulu Platt a bedyddfan a chlawr addurnedig.

Mae'r organ, adeiladwyd gan William Hill a'i Feibion, yn un o'r rhai gorau yng Ngogledd Cymru.

Ceir nifer o ffenestri lliw yn cynnwys dwy a wnaed yn 1900 ac un yn 1905 gan yr arlunydd gwydr enwog Kempe.

Fe adeiladwyd yr Eil Ogleddol, at yr adeilad gwreiddiol, yn 1874, er cof John Platt.

Yn fwy diweddar cafodd y meindwr ei adfer yn 1969 er cof Y Canon Maldwyn Evans, a fu yn Rheithor y plwyf o 1953 hyd at 1966, ac fe ail gysegrwyd yr eglwys i gynnwys yr ymroddiad hanesyddol Santes Fair ar ôl cau hen eglwys y plwyf yn 1999.

Robert Jones Hefyd bu ail adfer gwaith trydan, peintio ac ail oleuo yr eglwys yn 2004.

Ffenestri lliw yr Eglwys
I'r dde ac i gefn y fedyddfan mae dwy ffenestr gan yr arlunydd gwydr enwog Kempe, un yn portreadu Santes Elizabeth a Santes Anne a'r llall yn portreadu 'Cyflwyno Crist yn y Deml'.

I'r dde o'r allor mae gwaith arall gan Kempe ar y thema Gorchymyn Crist i Pedr, 'Bwydo fy nefaid', rhodd gan wraig John Platt a'i phlant, er cof am Philip Constable Ellis. Mae nod masnachol yr arlunydd i'w weld ar gongl chwith isaf pob ffenest fel ysgub gwenith.

I'r chwith o'r allor mae ffenestr sydd yn portreadu 'Yr Atgyfodiad', rhodd er cof Eleanor Platt.

Mae'r ffenestr ddwyreiniol uwchlaw yr allor, gan Clayton a Bell, yn dehongli y 'Te Deum'. Mae'r ffenestr orllewinol gyda phedair golygfa o fywyd Crist ac yn coffáu adeiladwyr yr eglwys.

Yr Organ
Ar 21ain o Orffennaf 1892, cysegrwyd Cangell newydd, a thalwyd amdani gan danysgrifiad lleol. Ar yr un pryd roedd festri a siambr organ yn cael eu hadeiladu ac yn 1902 cafodd organ William Hill ei ail hadeiladu i greu yr offeryn pedwar llaw presennol a'i symud i'r ochor ogleddol.

Edrychwyd ar yr organ yma fel un o rai gorau gogledd Cymry, ac mae mewn defnydd rheolaidd i ddatganiadau ac yn ddiweddar i gynhyrchu CD (ar werth yng nghefn yr eglwys).

Yn wreiddiol roedd yr organ yn cael eu phweru gan ddŵr, o'r Afon Ddu gerllaw. Nid tan 1936 gosodwyd 'blower' trydan, i sicrhau sain llawn yn ganol haf poeth pan oedd lefel y dŵr yn isel!"

Robert Jones


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy