Adeiladwyd y dref fel y mae heddiw yn Oes Fictoria i ddenu twristiaid i'r ardal i fwynhau nofio yn y môr a cherdded ar hyd y promenâd, er fod cyfraniad diwydiannol y chwareli ithfaen lleol hefyd yn bwysig i'r pentref. Prif atyniadau
Mae olion trigolion yr ardal yn mynd yn ôl llawer pellach na'r 19eg ganrif. Gellir ymweld â gweddillion caer o'r Oes Haearn yn Dinas, uwchben Llanfairfechan, yn ogystal â dilyn y ffordd Rufeinig, gyda chymorth gan garreg filltir y Kanovium, sy'n dynodi'r pellter i Gaerhun.
Mae Traeth Lafan yn ymestyn o Lanfairfechan i Stad y Penrhyn a gellir gweld adar mudol a chynhenid yno y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Mae gan yr RSBP warchodfeydd i'r gorllewin o Draeth Lafan (y Spinnies) ac i'r dwyrain (Glan Conwy). Sut i gyrraedd
Mae Llanfairfechan yn agos iawn i'r A55 ac mae yno orsaf drenau fechan ar lwybr Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru rhwng Caergybi a Chaer. Cyfeiriadau defnyddiol Llyfrgell
Ffordd y Pentref, Llanfairfechan, Gwynedd LL33 0AA 01248 681014 Cymdeithas Twristiaeth a Chyfleusterau Llanfairfechan
Cornelyn, Park Crescent, Llanfairfechan, LL33 0AU 01248 681419 E-bost:
enquiries@llanfairfechan.org.uk Ysgol Babanod Llanfairfechan
Ffordd y Pentref, Llanfairfechan, LL33 0AA 01248 680289 Ysgol Pant y Rhedyn
Ffordd Penmaenmawr, Llanfairfechan, LL33 0PA
01248 680642 RSPB Cymru www.rspb.org.uk
 |