"'Da ni wedi bod yn mynd ers dros 30 o flynyddoedd ac yn cyfarfod bob mis i ddysgu mwy am drefnu blodau. Rydyn ni'n aelod o NAFAS (Cymdeithas Sefydliadau Trefnu Blodau Prydain). Mi fyddwn yn cael pobl i ddangos blodau inni neu'n mynd o gwmpas i weld gerddi, a mynd am bryd o fwyd bach wedyn- mae'r ochor gymdeithasol yn bwysig! Yn 2006, ddaru ni gymryd rhan mewn arddangosfa yn y Gadeirlan ym Mangor i godi arian i Ward Alaw, y ward cancr yn Ysbyty Gwynedd.
Roedd y trefniant i fod i adlewyrchu gwaith y bobl sy'n gweithio yn y ward. 'Da ni'n ffodus fod Sioned Rowlands o siop Tulipa ym Mangor yn rhan o'r grŵp ac fe wnaeth hi, gyda help eraill, greu'r unig drefniant modern yn yr arddangosfa! Mae fel ffenestr sy'n agor, wedi ei addurno gyda llinynnau yn dod lawr gyda blodau pinc i ddynodi lliwiau'r ymgyrchoedd cancr arnyn nhw - gerberas shocking pinc, rhubannau pinc ac orchids. Roedd 'na waith mawr wedi mynd i mewn iddo fo. Orchid ydy fy hoff flodau i - gen i lot o rai gwyn acw. Fe gawson ni de parti i ddathlu 30 mlynedd fis Medi 2006 gydag un o'r aelodau wedi gwneud y gacen. Mae llun o Mary Edmondson, a fu'n llywydd ar y gymdeithas am y 30 mlynedd i gyd, yn torri'r gacen ond yn anffodus bu farw eleni. Bydd colled fawr ar ei hôl hi."
 |