BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanberis
Arwydd yn dangos y gefeillio yn yr EidalY Cysylltiad Eidalaidd
Ken Jones o Lanberis sy'n sôn am gyfeillgarwch arbennig pentref Llanberis gyda thref debyg draw yn yr Eidal.
  • Lluniau taith i'r Eidal

    "Dwi wedi helpu i drefnu Ras yr Wyddfa ers tua 30 mlynedd rŵan a thrwy'r ras honno, 'da ni fel pentref Llanberis wedi gefeillio efo tref yng ngogledd yr Eidal. Daeth rhedwyr o'r Eidal yma yn 1980, ac wedyn aethon ni atyn nhw flwyddyn wedyn a 'da ni wedi bod yn mynd yn ôl a 'mlaen ers hynny.

    Ddaru'r ras yn yr Eidal efeillio efo Ras yr Wyddfa, yna ddaru Clwb Rhedeg Eryri efeillio efo Clwb Rhedeg Morbegno ac felly daeth y ddwy dref yn gyfeillion hefyd.

    Dwi wedi bod draw i Morbegno dros ugain o weithiau. Mae'n dre fwy 'na Llanberis - tua maint Bangor - ond mae'n ddigon tebyg. Mae mewn dyffryn, gyda mynyddoedd o'i amgylch - jest fod popeth bum gwaith mwy - y boblogaeth, y dyffryn, y mynyddoedd!

    Maen nhw wrth eu bodd yn dod drosodd, hyd yn oed i weld Andrea Bocelli yn y Faenol! Roeddent wedi eu syfrdanu efo beth oedd yn mynd ymlaen. Mae 'na rhywbeth elitaidd mewn cyngherddau opera yn yr Eidal, doedden nhw heb fod i ddigwyddiad awyr agored fel 'na o'r blaen.

    Daeth band roc drosodd yn ddiweddar hefyd, a ddaru'r Gogz, neu'r Heights erbyn hyn, fynd draw yno. Dyna brofiad hollol wahanol i fynd draw i Morbegno efo'r rhedwyr! Maen nhw wastad yn poeni am fwyd ac am gael digon o gwsg a chael mynd i'r gwely'n gynnar ond doedd y band ddim yn poeni am hynny o gwbl!

    Mae athrawon o Ysgol Llanbadarn am fynd draw cyn bo hir i weld sut mae pethau cyn ystyried mynd â phlant o'r ardal allan i Morbegno.

    Mae'n bwysig pan mae ein cyfeillion yn dod draw nad ydym yn gwneud rhyw wledd o fwyd Eidalaidd fel ddaru tref gyfagos arall oedd wedi gefeillio efo tref yn yr Eidal. Mae'n bwysig peidio â gwneud pethau maen nhw wedi arfer â nhw - fyswn i ddim eisiau fish a chips yn yr Eidal! 'Da ni'n dangos sut mae bywyd fan hyn. Maen nhw'n dod draw ac yn aros mewn tai pobl o'r pentref - mae dau gwpwl wedi cael pobl draw ers 25 mlynedd!

    Mae gwersi Eidaleg wedi cychwyn yn Llanberis rŵan, ond dwi wedi sylwi erbyn hyn mai ail iaith lot o bobl Morbegno yw Saesneg. Flynyddoedd yn ôl, Ffrangeg oedd ail iaith y rhan fwyaf o Eidalwyr ond mae pethau wedi newid."


  • Cyfrannwch

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Theatr


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy