"Ewch yn ôl chwarter canrif a dim ond trên yr Wyddfa oedd yma: mae pethau wedi newid. Rŵan mae trên o amgylch Llyn Padarn, gorsaf drydan Dinorwig a'r amgueddfa lechi ac mae 'na ddatblygu mawr wedi bod. Mae'r lle wedi altro.
Yn anffodus, tydi Llanberis ei hun ddim yn y Parc Genedlaethol. Pan ffurfiwyd y parc, gadawyd Llanberis, Coris a'r Blaenau allan gan eu bod yn drefi diwydiannol, ond mae'r rhan fwyaf o'r chwareli wedi cau ers 30 mlynedd ac mae'n amser i bethau newid. Mi wnaethon ni ddadlau dros fod yn rhan o'r parc a bod pawb yn cael elwa o hynny. Dyma'r unig barc cenedlaethol efo twll ynddo!
Mae Llanberis yn bentref eithaf newydd. Nantperis oedd yma yn gyntaf ond 200 mlynedd yn ôl datblygodd y pentref oherwydd y chwareli. Castell Dolbadarn yw'r adeilad hynaf yma. Does 'na ddim hen, hen adeiladau yn y pentref ei hun.
Mae hen eglwys Nant Peris yn mynd nôl i'r 12fed ganrif - mae CADW yn cymryd gofal ohono rŵan, wedi penderfynu ei fod yn ddigon hen! Ac wedyn daeth y trên i ben yr Wyddfa. Arglwydd y Faenol, Assheton-Smith, oedd pia'r tir. Roedd yn gwneud cymaint o arian yn chwarel Dinorwig yn y 1880au, aeth i Lucerne yn y Swistir ar ei wyliau ac aeth i fyny mynydd y Rigi ar drên. Yn fanno tarodd ar y syniad y byddai'n lecio cael trên i ben ei fynydd ei hun. Y syniad gwreiddiol oedd cael trên o Lanberis i ben yr Wyddfa un ffordd, ac o Lanberis i Ryd Ddu y ffordd arall. Cafodd y trenau bach yma eu gwneud mewn tre o'r enw Winterthur yn y Swistir. Prynodd bum trên stêm, ac mi ddaeth â nhw nôl yma, yr holl ffordd i Lanberis! Dyna fenter!
Mi godwyd y trac mewn 72 o ddiwrnodiau - cyflogwyd 300 o Wyddelod i'w hadeiladu. Roedd yn waith mawr - yn cynnwys dwy draphont a phum pont.
Agorodd yn Ebrill 1896 ar gyfer y twristiaid, hynny oedd 'na yr adeg honno. Dim ond chwech neu saith trên oedd yn mynd i fyny bob dydd yr adeg honno. Rŵan mae'n rhaid gwrthod hanner y bobl sydd eisiau mynd i fyny!"
 |