BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

CeriSêr y dyfodol?
Mae Rhian, Ceris, Carys a Sioned wedi bod yn ystyried pa rai o'u cyd-ddisgyblion fydd yn enwog yn y dyfodol yn eu barn nhw.
"Rydyn ni, Rhian, Ceris, Carys a Sioned, yn bedair o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Tywyn.

"Rydan ni yn mynd i siarad am bobl rydan ni'n meddwl sydd am fod yn enwog yn y dyfodol; felly rydych chi'n gallu gweld y sêr pan oedden nhw'n iau.

Ceri - cantores
"'Fy hoff ganwr i ydy Joss Stone oherwydd mae hi'n fy ysbrydoli i ganu. Dim ond 17 oed ydy hi ac mae hi wedi ennill llawer o wobrau yn barod yn y Brits.'

Tom ac Alex

Alex a Tom - pêl-droedwyr
"Hoff chwaraewr: Wayne Rooney, Man U (Alex), Ronaldo, Brazil (Tom).

"Hoff dîm (pwy fydden nhw'n hoffi chwarae iddyn nhw): Man U (Alex a Tom).

"Chwaraewr gwaethaf: Crespo (Alex), Zidane (Tom)

Rhodri a Barry

Rhodri a Barry -
chwaraewyr rygbi

"Mae Rhodri a Barry yn hoff iawn o rygbi. Maen nhw yn ardderchog am chwarae i dîm yr ysgol.

"Mi fyddech chi'n gallu adnabod Barry yn unrhyw le oherwydd mae o o hyd yn gwenu ac yn chwerthin. Mae Rhodri dipyn bach fel ei arwr, Shane Williams, oherwydd mae o'n rhoi 100% i bob gêm!"

A beth am y merched eu hunain? Beth yw eu gobeithion nhw i'r dyfodol?


Sioned: "Pan rydw i'n tyfu i fyny rydw i eisiau bod yn actores oherwydd rwy'n mwynhau actio o flaen cynulleidfa fawr. Fy hoff actorion i yw Orlando Bloom a Brad Pitt oherwydd maen nhw'n actorion ardderchog. A buaswn yn hoff iawn o allu action fel Catherine Zeta Jones."

Carys: "Pan rydw i'n tyfu i fyny, rydw i eisiau bod yn rhywun sy'n dysgu pobl i ddawnsio. Ffilm sydd wedi rhoi'r syniad i fi - Honey - a dwi'n hoffi iawn o wneud dawns i fyny. Buaswn i yn hoffi dawnsio fel J-Lo. Ond, os nad oes gobaith gyda dawnsio, rhywbeth fel beauty therapist i fi!"

Rhian: "Pan rydw i'n tyfu i fyny rydw i eisiau bod yn ddawnsiwr i rhywun enwog. Rydw i'n meddwl fod Britney Spears a Jennifer Lopez yn dda am ddawnsio."

Ceris: "Pan rydw i'n tyfu i fyny rydw i eisiau bod yn receptionist mewn gwesty, athrawes neu hairdresser."'


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy