BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Roud Van NistelrooyLerpwl ta Manceinion?
Mae dilynwyr pêl-droed byth a hefyd yn dadlau am eu hoff dimau. Rhys, Rhun ac Alun sy'n rhoi Lerpwl a Manceinion Unedig mewn cystadleuaeth yn erbyn ei gilydd i weld pwy ydi'r gorau ...
"Ein henwau ni yw Rhys, Rhun ac Alun ac rydyn ni am sôn am Lerpwl a Manchester United. Pa dîm yw'r gorau?

Rydyn ni'n dechrau drwy edrych ar bwy yw chwaraewyr da a drwg Lerpwl a Manceinion.

Chwaraewyr da
Steven Gerrard: Dyma gapten Lerpwl. Os yw'n cael, mae Steven yn gallu rheoli gêm. Dyw ddim ofn tacl ac mae'n gallu hitio'r bêl yn galed ofnadwy. 9/10

Sami Hyppia: Mae o'n amddiffynnwr da iawn ond mae braidd yn araf. Ei bwyntiau cryf yw penio a rheoli'r bêl. 8/10

Ruud Van Nistelrooy: Mae o'n gyflym iawn ac mae o'n dda iawn am gymryd shots am y gôl ac mae o'n dda iawn am reoli'r bêl o uchder. Mae o hefyd yn gryf iawn ac mae o'n eithaf da am benio'r bêl. 8/10

Cristiano Ronaldo: Mae o'n dda am wneud sgiliau pêl-droed efo'i draed ac mae o'n gyflym ac yn dda am gymryd free kicks a chiciau cosb ac mae'n rheoli yn eitha' da. 8/10

Chwaraewyr drwg
Roy Kean: Mae o yn araf am redeg ac mae o'n cychwyn ffeits efo pobl a dydy o ddim yn dda iawn am gymryd shots am y gôl.

El Hadji Diouf: Mae Diouf yn iawn heblaw ei fod wedi costio £10 miliwn ac hefyd ei fod yn poeri ar gefnogwyr a chwaraewyr eraill.

Rafael Benitez

Rheolwyr
Rafael Benitez: Mae Benitez yn rheolwr gwych. Roedd yn gwneud yn dda iawn efo Valencia cyn dod i Lerpwl, ddaru o ennill Cwpan Uefa, La Liga ddwy waith a wedyn dod i Lerpwl.

Syr Alex Ferguson: Mae o wedi bod yn rheolwr ar Manchester United ers 19 o flynyddoedd ac mae o'n dod o'r Alban. Mae wedi ennill y Premiership wyth gwaith a'r FA Cup bedair gwaith ac wedi ennill y Champions League unwaith. Yn fy marn i mae o'n rheolwr da iawn.

Tymor 2004/5
Mae'r tymor yma wedi bod yn dymor da i Manceinion. Maen nhw'n ail i Chelsea ac maen nhw wedi curo Arsenal i stopio eu unbeaten run nhw. Dydy Lerpwl ddim yn gwneud mor dda, maen nhw wedi colli'r dwbl i Manceinion, colli un i Everton - maen nhw wedi llosgi allan.

Manceinion yw'r tîm gorau hefyd oherwydd maen nhw yn ennill mwy o gwpanau na Lerpwl. Pwy sy'n cytuno?"


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy