BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Daith i Ddulyn
gan Alaw Fflur Tomos o Ddolgellau.

Roedd hon yn daith a hanner.

Codais am chwarter wedi pump yn y bore. Roedd hi'n dywyll fel bol buwch. Cefais frecwast a chychwyn i Gaergybi oherwydd roeddwn yn mynd i Ddulyn am y diwrnod.

Teimlodd y daith i Gaergybi yn weddol hir a bod yn onest. Balch oeddwn o weld Pont Britannia a'i 'archau' llwyd, cryf. Edrychai Afon Menai yn llonnydd a chysglyd.

O'r diwedd daeth yr A55 i ddiwedd a chyrhaeddasom Caergybi. Roeddwn yng nghwmni Nain, Mam a'm mrawd bach.

Aethom ar fws i ddal y llong i Ddulyn ond yn ôl y dreifar, roedd rhaid disgwyl hanner awr nes y gallwn fynd ar y llong. Roedd yna drafferthion technegol arni. Nid oeddwn yn poeni llawer, ond yn anffodus pan aethom ar y llong roedd problemau eraill - yn lle cymeryd 99 munud i groesi'r môr cymerodd ddwy awr a hanner.

"O na, pam heddiw?" cwynodd mam.

Er ein trafferthion , roeddwn i a mrawd bach yn gyffrous iawn, nid oeddwn wedi bod ar long o'r blaen!

Roedd y môr yn edrych yn ddyfn ac yn fudur, wrth edrych arno daeth rhyw deimlad rhynllyd drostaf, fflachiodd meddyliau negyddol i'm mhen ond torrodd Nain nhw gan ofyn: "Wyt ti'n iawn?"

O'r diwedd roeddwn yn Nulyn. Edrychai'r llongau fel cewri mawr dewr yn y porthladd. Ar ôl cyrraedd y ddinas cawsom ginio mewn bwyty. Nid oedd amser i wastraffu.

Ar ôl chwilio yn drylwyr am fws top-agored am oes, ffeindiais fws lliwgar i fynd a ni o gwmpas y ddinas hanesyddol.

Chwythai'r gwynt yn fy ngwyneb a thoddai'r haul fy mhen ond roeddwn dal i fwynhau gweld y golygfeydd bendigedig o nghwmpas.

Gwelais yr adeiladau enwog, pontydd, yr afon Liffy a'r cerfluniau enfawr. Yn anffodus nid oedd amser i weld yr amgueddfeydd na'r coleg poblogaidd 'Trinity'. Aethom i dafarn. Dechreuais ymlacio wrth wrando ar gerddoriaeth traddodiadol Gwyddeleg.....

Cyn hir daeth yr amser ini fynd yn ôl i'r porthladd i ddal ein llong yn ôl i Gymru fach. Cawsom dacsi cyfforddus. Llawer gwell na'r hen fws.

Eisteddom yn dawel mewn seddi yn y porthladd. Suddodd fy nghalon wrth i'r swyddog gyhoeddi ein bod yn gorfod aros tair awr arall am ein llong, oherwydd y problemau technegol. Roeddwn yn dechrau blino; yr unig beth yr oeddwn eisiau gwneud oedd mynd adref. Roedd hon yn troi allan i fod yn daith a hanner.

Pan gyrhaeddom borthladd Caergybi roedd hi'n hanner awr wedi deg yn y nos! Cyfrais yn flinedig yn fy mhen yr oriau yr oeddwn wedi bod yn effro ... Un-deg-saith awr, caeodd fy llygaid yn dynn a chwympais i gysgu gan wrando ar sŵn a symudiad y car.

Erbyn cyrraedd adref , roedd hi'n hanner nos. Meddyliais am yr holl daith; credaf nad oeddwn wedi bod ar un mor hir erioed o'r blaen.

Balch oeddwn o gael mynd i'm gwely braf a chysgu ...


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy