BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Porsche Carrera GTPorsche ta Bentley?
Dyma Deian, Siôn, Gethin, Tomos a Robin o Ysgol David Hughes, yn sôn am rai o'r ceir cyflymaf sydd i'w cael. A fydd un ohonynt yn berchen ar un yn y dyfodol tybed? Mi all pawb freuddwydio ...
Porsche Carrera GT
Mae'r Porsche Carrera GT yn un o'r ceir cyflyma fedrwch eu gyrru ar lonydd Prydain. Y Porsche Carrera GT oedd y car cyflymaf rownd trac Top Gear, gyda'r Mercedes SLR yn ail.

Cafodd y car ei greu fel car Le Mans i Porsche i gychwyn, wedyn yn y flwyddyn 2000 dechreuodd Porsche droi y car i fewn i gar delfrydol. Mae'n gar andros o gyflym gydag injan v10 sy'n cyrraedd 205 milltir yr awr.

Mae'n wir i ddweud bod y Porsche Carrera GT yn un o'r ceir gorau a chyflymaf ar y ddaear ar hyn o bryd.

Bentley Hunaudières

Bentley Hunaudières
Ymddangosodd y car pwerus yma am y tro cyntaf yn sioe modur Geneva yn 1999, i syndod y cyhoedd a'r wasg. Yr Hunaudières yw'r car cyntaf i ddangos effaith perchnogaeth Volkswagen ar y cwmni enwog Prydeinig.

I ddweud y gwir, roedd y syniad yn bodoli cyn i VW cymryd drosodd Bentley, ond cafodd y syniad ei dderbyn gan y cadeirydd, Ferdinand Piech, ŵyr i Ferdinand Porsche. Pan oedd yn gweithio i'r cwmni teuluol, creodd y 917, y car a enillodd i Porsche eu ras Le Mans cyntaf yn 1970.

Crëwyd yr Hunaudières gan beirianwyr Prydeinig ac Almaeneg yn ffatri 'prototype' VW yn Wolfsburg. Cymerodd y crëwyr agweddau o'r Lamborghini Diablo. Prynodd VW y cwmni yma yn 1998.

Yng nghalon y coupè mae injan canolig 8 litr, 623 bhp V16, gyda dim llai na 64 falf. Mae'r car yn symud i ffwrdd o confensiwn, ac yn lle 2 rhes o 8 cilindr, mae yna blociau o bedwar wedi eu paru. Mae'r trefniant yma yn gwneud i'r injan fod mor gryno a V8. Mae gerbocs awtomatig 5 cyflymder yn cael ei ddefnyddio.

Mae'r tu mewn yn cynnwys lledr ac alwminiwn sy'n adlais o'r 1920au.

A'r enw anghyffredin? Mae'n dod o'r rhan syth ar y trac Le Mans, lle ennillodd y Bentleys mawr gwyrdd yn 1924 ac yn olynol o 1927 i 1931.

Allai hanes ailadrodd ei hun? Mae'r car wedi ei orffen mewn lliw rasio gwyrdd...


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy