BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Goglais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tân y Ddraig, Faenol, 28/8/06
Mentrodd Angharad Dubheasa o Benrhyndeudraeth i noson Tân y Ddraig yng ngŵyl y Faenol am y tro cyntaf yn 2006...

Anweledig a glaw
Anweledig drwy'r glaw (Llun gan Dewi Prysor) next page
123

  • Mwy o luniau Tân y Ddraig
  • "Noson oer a gwlyb ar ddiwedd mis Awst, ond un o nosweithiau mwyaf gwefreiddiol y dyddiadur byd cerddoriaeth Gymraeg.

    "Codais i, a miloedd eraill, fy mhac ac anelu am Tân y Ddraig yn y Faenol. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i erioed wedi bod yn yr ŵyl o'r blaen, er mai hon yw'r seithfed i gael ei chynnal bellach.

    "Ar ôl torri calon am hyd y ciw, synnais mor gyflym yr es i i mewn i'r prif gae. Roedd cryn dipyn o bobol yn eistedd y tu allan yn yfed o ganlyniad i'r gwaharddiad ar ganiau a gwydr. Ar y pryd doedd hyn ddim yn peri problem i mi oherwydd mae hi'n rheol yr ydyn ni wedi hen arfer â hi yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau bellach.

    "Ond darganfyddais drannoeth mai hon oedd yr unig noson lle gorfodwyd y gwaharddiad yma. Dwi yn cytuno gyda'r reol ond dylai gael ei gweithredu drwy gydol yr ŵyl yn y dyfodol.

    "Gelwir y noson hon yn noson y werin, ac roedd y werin allan yn un llu. Roedd pobol o bob cenhedlaeth yno'n mwynhau cantorion fel Elin Fflur, The Proclaimers ac Anweledig. Roedd yr hen blant yn rhedeg o gwmpas wedi cynhyrfu'n lân am iddynt gael bod yno.

    "Profiad gwych oedd gweld Huw Jones yn fyw gyda band ysblennydd a Heather Jones yn ymuno ag o ar y llwyfan. Digrif oedd y merched canol oed yn rhuthro i gael gweld yn well ac yn sgrechian wrth i'w ffefryn ddod ymlaen. Uchafbwyntiau ei berfformiad oedd Dŵr a Dwisio Bod Yn Sais - ymgasglodd y dorf yn y blaen i wneud dawns anhysbys, ond ymunodd pawb yn yr hwyl.

    "Rhwng pob un o'r bandiau mawr trydanol roedd sets acwstig gwych gan amryw o fandiau fel Brigyn a Dan Amor a gwnaeth hyn i'r amser rhwng pob band fynd heibio'n bleserus ac roedd yn atal diflastod.

    "Ond The Proclaimers oedd y band a gynhyrfodd y dorf a heidiodd pawb i'r llwyfan. Roedd pawb wedi cyffroi ar y dechrau, ond ciliodd hyn wrth iddynt ganu rhai o'u caneuon arafach. Mewn gwirionedd, dim ond un neu ddwy o ganeuon roedd y rhan fwyaf o bobol yn eu hadnabod, er hynny, pan ddaeth hi'n dro'r '500 miles' adnabyddus, gwallgofodd pawb unwaith eto.

    "Daeth Anweledig a'r glaw efo nhw o Flaenau Ffestiniog i'r Faenol ac roedd hi'n amhosib i unrhyw un aros yn sych. Ond roedd digon o bobol yn barod i ddawnsio fel mwncïod gwyllt i ganeuon fel Cae yn Nefyn a Dawns Y Glaw, er gwaetha'r drochfa.

    Manteisiodd Anweledig ar y cyfle i arddangos rhai o'u caneuon newydd, er i'r prif leisydd, Ceri, gael trafferth cofio ei eiriau. Golygodd broblemau technegol hefyd bod rhaid disgwyl sbelan cyn i'r gerddoriaeth ddechrau ac roedd y band ar goll am beth i'w wneud a'i ddweud yn y cyfamser. Serch hynny roedd eu perfformiad yn llawn hwyl a gwên ac erbyn y diwedd roedd y dorf yn gweiddi am fwy.

    "Daeth Bryn Terfel allan i gloi'r noson gyda pherfformiad anhygoel o Hen Wlad Fy Nhadau dan y tân gwyllt a oedd yn ddiwedd perffaith i benwythnos llwyddiannus arall yn hanes Gŵyl y Faenol."

    Angharad Dubheasa

    Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Eisteddfodau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy