Sgroliwch i lawr am ragor o luniau
"Rydyn ni fil o droedfedd uwch lefel y môr i fyny yma ym Mynydd Llandegai. Mae'n wyntog dros ben a 'da ni wedi cael deg modfedd o law mewn blwyddyn! Mae'n syndod i bawb ein bod yn gallu gwneud gerddi mor dda yma.
"Dwi'n rhan o grŵp sy'n gweithio ar ardd gymunedol yn y pentref. Cafodd y tîm pêl-droed arian i gael cae newydd - roeddent yn gorfod codi rhan o'r tir 9 troedfedd i'w wneud yn wastad gan nad oes tir fflat ddigon mawr yma! Wrth ymyl y cae roedd ryw hanner acer o dir ac fe wnaethon ni benderfynu creu gardd gymunedol yno.
"Mae plant o Ddyffryn Ogwen a'r ysgol gynradd wedi dod draw i helpu ac mae eraill yn dod draw ar y penwythnos - mae dros 60 o aelodau o'r gymuned wedi cymryd rhan.
"I gychwyn, fe wnaethon ni greu twmpathau bach yn yr ardd, i edrych fel y Carneddau o'n cwmpas. Ond yn anffodus, gawson ni bridd ofnadwy gyda thywod ynddo. Pan gafon ni'r glaw yr hydref diwethaf, roedd 'na gymaint o erydiad roedd 'na draeth bach ar waelod bob twmpath!
"Erbyn hyn, 'da ni wedi gwneud patio a llwybrau allan o lechi lleol, fel y pileri sydd rhwng gerddi tai'r pentref. Hoffwn i gael mwy o'r pileri llechi yma i fyny yn yr ardd.
"Da ni hefyd wedi bod yn plannu - a thrïo cael gwared â'r holl chwyn. Roedd yn rhaid i ni roi tail i lawr i helpu'r pridd ond roedd 'na gymaint o hadau ynddo, mi ddaru hynny roi trafferthion i ni. Ond gan fod y tir mor ofnadwy, rhaid ei wella mewn rhyw ffordd.
"Gan fod y tir yn agored rydym wedi rhoi clawdd ar hyd un ochr. 'Da ni hefyd am blannu coed sy'n tyfu'n dda ar dir mynyddig, fel y fedwen a'r ffawydden. Maen nhw'n tyfu mewn meithrinfa yn un o'r chwareli ar hyn o bryd.
"'Da ni hefyd am gael Rosa rugosa gan ei fod yn tyfu'n dda ger maes parcio neuadd y pentref. Da ni eisiau plannu pethau sydd am ddod â lliw i ni rownd y flwyddyn, fel Skimmia Japonica a chelyn. 'Da ni hefyd yn trïo rhoi pethau pigog ger i wal i stopio plant rhag dringo drosto! Dwi'n plannu pethau sy'n gwneud yn dda yn fy ngardd i, fel Rhododendron.
"Yn anffodus, mae popeth 'da ni wedi ei blannu am gymryd amser i dyfu ac roedd y bobl ddaru roi'r grant am y cae pêl-droed yn dod draw ac yn disgwyl gweld rhywbeth. Felly fe wnaethon ni brynu planhigion a'u plannu ddiwedd mis Mai - ond wedyn gawson ni Fehefin a Gorffennaf sych ac mi ddaru nhw ddioddef. Fel arfer, yn y Mynydd, 'da ni'n gallu plannu unrhyw amser o'r flwyddyn gan fod gwlith yma bob dydd bron. Anaml iawn fyddwn ni'n gallu cerdded yn droednoeth yn yr ardd heb deimlo'r lleithder. Ond eleni (2006) roedd hi mor sych mi wnaeth y goeden gelyn golli bron pob deilen.
"Dwi wedi sylwi fod y tywydd wedi newid ers i mi fod yma tua 30 mlynedd yn ôl. Ers talwm mi fydden ni o dan eira am rai wythnosau o'r flwyddyn ond erbyn hyn does fawr ddim.
"Y peth pwysicaf am blannu planhigion ar dir mynyddig fel sydd gennym ni yma yw cofio bod y tir yn wlyb dros ben, ac felly rhaid dewis planhigion sy'n hoffi cael eu traed mewn pridd gwlyb ac oer. Mae ein gwanwyn ni yn para tua thair wythnos yn hirach nag i lawr ym Mangor gan ein bod ni mor uchel i fyny. Felly mae'r pridd yn cymryd yn hirach i gynhesu. Mae planhigion yn dal i ddangos lliw fa'ma hyd fis Medi.
"Mae'r gwynt hefyd yn lladd lot o blanhigion felly rhaid gwneud yn siŵr fod 'nag ochr cysgodol i'r ardd.
"Cyn cychwyn gwaith ar yr ardd gymunedol, mi wnaeth rhai ohonom benderfynu ychydig o flynyddoedd yn ôl y byddai'n syniad gwneud rhywbeth i ddod â'r gymuned at ei gilydd. Er bod ganddon ni Neuadd Goffa, mae'r pentref ar wasgar braidd. Cafodd ei adeiladu ar gyfer chwarelwyr ac felly tai chwarelwyr sydd yma, gyda gerddi mawr, hir ar gyfer tyfu bwyd a chadw ieir a buwch.
"Felly ddaru ni gychwyn Antur Mynydd a oedd yn cynnwys clwb garddio, dosbarth trefnu blodau a mwy. Hefyd, es i rownd yn gweld os oedd gan rai ddiddordeb mewn agor eu gerddi i bobl gael dod draw i'w gweld nhw, ac roedd gan gryn dipyn ddiddordeb. Yn y diwedd, mi gawson i groesdoriad gwych o erddi pobl yr ardal.
"Gan nad oedd y gerddi wedi newid gymaint erbyn 2006, mi wnaethon ni benderfynu cael sioe wledig, gyda chystadlaethau blodau a garddio - ond roedd pobl yn dal i ofyn pryd fydden ni'n dangos gerddi eto. Falle y gwnawn ni eto yn y dyfodol."