Dewch am dro trwy'r ardd.
Mae Gerddi Cestyll wedi bod yma ers 1922. Cawsant eu gosod yn bersonol gan Violet Vivian, y ferch a gafodd y tir a'r hen blasty yn anrheg gan ei ewythr, Walter Vivian.
Roedd Violet a'i chwaer Dorothy yn 'ladies in waiting' i'r Frenhines Alexandra ac yn boblogaidd iawn ym mhlith y teulu brenhinol. Roedd Violet yn ffrindiau mawr gyda'r Dywysoges Victoria, merch Edward VII. Byddai'n dod ar ei gwyliau haf i Cestyll a ddaru hi helpu i gynllunio rhan isaf y gerddi.
Nid yw'r tŷ^ yma erbyn hyn yn anffodus. Mi gafodd ei ddymchwel yn 1991 gan ei fod mewn cyflwr mor wael, ond mae tŷ^ yr 'housekeeper' a physt y giatiau dal yma - ac yn dangos pa mor grand oedd y plasty gwreiddiol.
Pan gafodd y tir ei werthu gan nith Violet er mwyn adeiladu'r orsaf pŵer, mi gafwyd cytundeb fod yr Wylfa edrych ar ôl y gerddi am y dyfodol i ddod, ac rydym wedi gwneud hynny. Yn y 1980au penderfynwyd ail-agor y gerddi i'r cyhoedd, fel y gwnaeth Violet, a rŵan mae croeso i elusennau cysylltu efo ni i drefnu digwyddiadau i godi arian am ymweliad. Mae'r RNLI wedi bod yn dod yma bob Mai am sbel rŵan.
Mae yna ficrohinsawdd yma ac felly mae lot o blanhigion wedi llwyddo sefydlu yma; rhai byse wedi cael trafferth ffynnu mewn llefydd cyfagos. Mae yma rododendron, gwyddfid asalea a gunnera; planhigyn sy'n edrych fel riwbob enfawr. Mae o fel rhywbeth allan o 'Day of the Triffids'! Dyma un o fy hoff blanhigion yma gan fod o'n edrych mor wych, gyda'i dail gwythiennig a'r pigau oddi tanodd.
Mae gunnera wrth ei fodd yn tyfu ger y dŵr, ac mae gennym ni ddigon o hynny yma, gan fod yr Afon Cafnan yn rhedeg trwy ganol yr ardd. Ddaru Violet sefydlu'r ardd o amgylch yr afon, gan wneud y gorau ohoni.
Mae yna hefyd hen felin ddwr yma ac mae o'n arbennig yn y ffordd mae'n gweithio. Mi roedd y dŵr yn mynd dros ben yr olwyn i'w throi, yn lle llifo oddi tanddi. Er bod yr olwyn wedi'i difrodi rŵan, mae'r peirianwaith dal yma i'w weld; ond mae'n rhaid cael caniatâd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ymweld â'r felin.
Gan bod hi mor ddistaw yma, rydym yn cael tylluanod. Roeddwn yn ddigon lwcus i weld un tawny unwaith pan roeddwn ar drip natur gyda phlant ysgol.
Ond rydym yn cael trafferth mawr gyda thyrchod daear yn yr ardd, sy'n syndod gan mai dim ond rhyw pum modfedd o bridd sydd yna ar ben y creigiau! Roedd yn rhaid iddynt ddod a phridd i mewn i'r ardd mewn bwcedi yn y 1920au er mwyn creu gwely i'r planhigion unflwydd.
Yng ngardd Tywysoges Victoria, yn rhan isaf y tir, mae yna dair coeden afal oedd yn arbennig ar gyfer staff y tŷ. Roedd yn anodd iawn cael gafael ar ffrwythau ar y pryd ac felly roedd yn dipyn o fonws cael y cyflenwad yma.
Uwchben yr afon y mae'r 'patio'. Mae'r lle yma yn arbennig o liwgar, yn enwedig ym mis Mai pan fydd y rhododendron yn blodeuo'n pinc a choch; maen nhw werth eu gweld.
Mae yna hefyd olygfa wych o'r patio, yn edrych i lawr trwy'r coed tuag at y môr. Mae yna fainc goffa yma i gofio merch o'r pentref bu farw'n ifanc; mae llwch sawl un wedi cael ei wasgaru yn yr ardd, gan gynnwys Violet, ei ewythr ac un o reolwyr yr orsaf pŵer oedd hefyd yn arlunydd. Mae'n le i ddod i fod yn ddistaw, a meddwl. Dwi wastad yn cael llawer o heddwch o fod yma.
Dewch am dro trwy'r ardd.