Dewch i gwrdd â rhai o'r gynulleidfa ddaeth i fwynhau gweldd gerddorol y Faenol yn 2007. Os hoffech chi gyfrannu sylwadau neu luniau, anfonwch neges ebost at: gogleddorllewin@bbc.co.uk
"Wnaethon ni fwynhau y noson opera, roedd hi'n noson arbennig. O'n i'n hoff iawn o Bryn a'r ferch ifanc o Korea. Roedd ei llais hi'n arbennig. Byddwn ni'n dod i'r Faenol bob blwyddyn. Noson y sioeau yw'r gorau fel arfer ond dw i'n mwynhau'r opera hefyd. Rydyn ni'n gwrando ar gerddoriaeth opera gartref.
"Mae'n neis iawn eu bod nhw wedi meddwl am ddarparu pethau gwahanol eleni, yn enwedig i bobl sy'n dod o bell. Mae lot o bobl yn dod yn gynnar ac yn gwneud diwrnod ohoni. Mae'n neis cael eistedd i lawr a gwrando ar y gerddoriaeth yn y 'sgubor a wedyn cerdded o gwmpas cyn mynd i'ch sedd ar gyfer y noson.
"Wnaethon ni fwynhau Andrea Bocelli ddwy flynedd yn ôl, a Van Morrison ac roedd y canwr o Fecsico llynedd yn dda iawn. Wnaeth o siarad Cymraeg ar y llwyfan a chafodd o groeso'n syth bin gan y gynulleidfa. Mae'n braf gweld Michael Ball yn ôl am yr eildro eleni - efallai y bydd Bryn yn dechrau gwahodd mwy o bobl yn ôl yn y dyfodol!"