(Ar y dde yn y llun gyda Carys ac Ifan Glyn Jones)"Roedd criw ohonom wedi bod yn Lerpwl yn gwrando ar Bryn yn canu yn Don Giovanni yn 1993 a dyma un ohonom, cadeirydd y clwb wedyn, Mair Roberts, yn gofyn iddo 'reit, lle gawn ni fynd nesa?'
'Efrog Newydd', meddai Bryn.
"A dyma ni'n dechrau meddwl am y peth, casglu ryw 25 ohonom at ein gilydd a phenderfynu mynd.
"Ond mi landion ni yn Efrog Newydd efo 87 o bobl! Mi ddaeth cwmni teledu dod efo ni a gwneud rhaglen am yr wythnos gyfan, ac mi gafon ni andros o hwyl.
"Wedyn, roedd y criw eisiau cael aduniad bob blwyddyn, ac o hynny mi ddaru ni benderfynu dechrau clwb i'r 87 gwreiddiol i fynd ar dripiau i weld Bryn.
"Ond unwaith 'da chi'n cychwyn rhywbeth, mae'r gair yn lledaenu yma a fan draw ac mae'r peth yn tyfu!
"'Da ni wedi bod i Ffrainc, Amsterdam, America ac i Awstralia, a chael gweld Bryn yn y Sydney Opera House. Roedd o'n perfformio Falstaff ac roedd o'n wych - yn rêl Falstaff.
"Wrth gwrs, roeddem yno am tua mis ac yn cael gweld lot o'r wlad hefyd - dyna i chi drip!
"Ond y trip cyntaf i Efrog Newydd oedd y gorau un, dyna lle gafon ni'r hwyl mwyaf - ond wedi dweud hynny, roedd pob un yn ffantastig.
"'Da ni'n meddwl ei bod hi'n ffantastig fod Bryn wedi trefnu'r Faenol - i feddwl fy mod yn gallu dod o fewn 8 milltir o'r tŷ a gweld Shirley Bassey - mae'n wych.
"Da ni'n dweud bob blwyddyn mai dyna'r noson orau un yn y Faenol - mae'n amhosib cymharu o un flwyddyn i'r nesaf.
"'Da ni'n cael croeso mawr gan Bryn ym mhob man rydan ni'n mynd - mae o'n hoff iawn o'i Derfeliaid!
"Yn y diwedd, mi roedd sortio'r holl dripiau yn dod yn andros o lot o waith, yn enwedig wrth iddi ddod yn anoddach i gael y tocynnau. Felly mae'r tri gwreiddiol wedi rhoi'r gorau iddi - a phasio'r dyletswyddau ymlaen i'r rhai nesaf. Ond mae wedi bod yn brofiad..."
Terfeliaid brwd o America.