BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ceir wedi parcioCyrraedd y maes
Manylion teithio i'r Eisteddfod mewn car, trên, bws neu ar feic ....
CEIR
Fel rhan o drefniadau teithio'r Eisteddfod, mae Cyngor Gwynedd a'r Heddlu wedi llunio rhwydwaith o lwybrau penodol ar gyfer teithwyr car yn ystod yr ŵyl.

Bydd mynedfa i'r Eisteddfod drwy unai Brif Fynedfa Stâd y Faenol, Ffordd Bangor y Felinheli neu drwy Ffordd y Parc, Parc Menai.

I gyrraedd y mynedfeydd bydd angen dilyn y llwybrau canlynol:

Llwybr 1 o'r de a'r canolbarth (Moduron yn unig)
A470/A487 - Dilyn yr A470 o Cross Foxes, Dolgellau hyd at gyffordd A487/A496 ger Maentwrog; dilyn yr A496 i Flaenau Ffestiniog yna'r A470 i Fetws y Coed. Dilyn yr A5 ym Metws y Coed drwy Gapel Curig i Gyffordd 11 yr A55 yn Llandygái. Dilyn yr A55 i Barc Menai (Cyffordd 9).

Llwybr 2 o'r de a'r canolbarth (Bysiau a Charafannau)
A470/A487 - Dilyn yr A470/A487 o Cross Foxes, Dolgellau drwy Benrhyndeudraeth, Porthmadog, Caernarfon, Ffordd Osgoi'r Felinheli i Brif Fynedfa Stâd y Faenol, Ffordd Bangor, y Felinheli.
NI FYDD MYNEDFA I'R EISTEDDFOD DRWY GANOL Y FELINHELI

Llwybr 3 o'r dwyrain
A55 i Barc Menai (Cyffordd 9).

Llwybr 4 o'r gorllewin (Eifionydd a LlŶn)
A487/A499 i Gaernarfon, Ffordd Osgoi'r Felinheli i Brif Fynedfa Stâd y Faenol, Ffordd Bangor, Y Felinheli.
NI FYDD MYNEDFA I'R EISTEDDFOD DRWY GANOL Y FELINHELI

Llwybr 5 o Ynys Môn
Arwyddion A55 yn cyfeirio trafnidiaeth yr Eisteddfod o Briffyrdd Dosbarth I Ynys Môn i Gyffordd 8 ac yna i Barc Menai (Cyffordd 9). Manylion Pont Menai a Phont Britannia

Trefn Trafnidiaeth Parc Menai
Bydd rhaid i bob cerbyd ddilyn llwybr cylch ar gyfer mynedfa ac ymadael â'r Eisteddfod. Bydd y llwybr fel a ganlyn - Ffordd y Parc, Ffordd y Llyn, Ffordd Gelli Morgan a Ffordd y Parc ymlaen i Ffordd Stâd y Faenol.
NI CHEIR PARCIO AR Y FFYRDD YMA DROS YR ŴYL.

Ar ôl ichi barcio eich car yn y maes parcio mae bysus gwennol rheolaidd ar gael i fynd â chi at brif fynedfa'r maes.

BYSUS A THRENAU
Mae Arriva Cymru yn cynnig tocyn cyfun ar gyfer teithio ar y trên a chael mynediad i faes yr Eisteddfod eleni. Gallwch brynu'r tocynnau yma ym mhob gorsaf trên yng Nghymru a Lloegr, neu gan swyddogion ar drenau Arriva.

Parcio a theithio
Gallwch barcio eich car mewn gorsafoedd trên ar draws y gogledd a dal trên i'r Eisteddfod.

Y gorsafoedd sy'n rhan o'r cynllun ydy: Abergele, Amwythig, Bae Colwyn, Betws-y-coed, Blaenau Ffestiniog, Bwcle, Caer, Caergybi, Cefn-y-bedd, Conwy, Fflint, Gobowen, Penarlâg, Pen-y-ffordd, Prestatyn, Rhyl, Shotton, Wrecsam Canolog, Wrecsam Cyffredinol, y Fali a'r Waun.

Arriva
Bydd bysiau gwennol yn mynd â theithwyr o Orsaf Bangor i'r Maes bob hanner awr o 8.00 o'r gloch y bore tan 7.00 yr hwyr, ac yna bob awr tan hanner nos. Gallwch fynd ar y bws o'r orsaf heb fod wedi dod ar y trên ond rhaid prynu tocyn sy'n cynnwys mynediad i'r maes yn yr orsaf. Cost mynediad i'r maes a bws o Fangor ydy £11.00.

Express Motors o Gaernarfon
Mae bws bob hanner awr o Orsaf Bysiau Caernarfon (Arhosfa A) a'r Faenol yn cychwyn am 8.10 o Gaernarfon tan 18.25, ac o'r Faenol rhwng 8.35 a 18.50 yr hwyr. Nid oes gwasanaeth ar ddydd Sul.

Mae manylion gwasanaethau bws o wahanol rannau o Gymru ar wefan Bws Gwynedd (dolen ar y dde)

Mwy o wybodaeth:
Bws Gwynedd (01286) 679535
Express Motors (01286) 881108
National Express 08705808080
Trainline 0870 9000773

BEICIO
Mae llwybrau beic o Gaernarfon a Bangor i Stâd y Faenol a bydd nifer cyfyngedig o lefydd i gadw eich beic wrth brif fynedfa'r maes.

Mae manylion llawn am y trefniadau teithio i'r ŵyl ar wefan Cyngor Gwynedd (dolen ar y llaw dde).


Cyfrannwch

Hywel Meredydd, Ynys Môn
Mae’n amlwg nad yw trefnwyr yr Eistedd eleni wedi ystyried beiciwyr yn eu stwythr trafnidiaeth. Gyda cannoedd o bobl eisoes wedi penderfynu beicio i’r steddfod oherwydd trafferthion croesi y Fenai a mynediad arferol i’r Faenol - fyddai wedi bod yn ddisgwyliedig y byddai Trefnwyr y steddfod yn sicrhau mynediad diogel a hwylus i feicio i’r steddfod. Yn wir pe byddai llawer mwy yn beicio i’r steddfod, byddai llai o draffic!

Dydd Sadwrn cyntaf y steddfod aeth criw o Glwb Beicio Cefni heibio i’r maes, gan sylwi ar ddiffyg darpariaeth i feicwyr. Ac ar dudalen 15 ‘Gyrru i’r Eisteddfod’ o Rhaglen Eisteddfod Eryri a’r cyffiniau does dim cyfeiriad o gwbl at feicio.

Felly mae aelodau o Glwb Beicio Cefni yn galw ar drefnwyr lleol Steddfod Eryri rhag blaen i sicrhau bod arwyddion yn rhybuddio gyrrwyr ceir i fod yn ymwybodol o feiciwr ar hyd y ddwy fynedfa.

Hefyd, sicrhau lle diogel i gadw beiciau. Darparu lle addas i feicwyr newid i ddillad bob dydd ger mynedfa y steddfod.

Yn ogystal a hyn, hoffwn i rheolwyr canolog yr Eisteddfod Genedlaethol i fabwysiadau polisi am feicio i’r steddfod yn flynyddol - fydd yn ofynnol i bob pwyllgor lleol ei mabwysiadu a’i gweithredu gogyfer hybu beicio i’r steddfod

Yn drydydd, dylai pob sefydliad sy’n gweithio yn y steddfod annog eu gweithwyr i feicio i’r maes, wrth ddilyn esiampl y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig 20c y filldir i feicwyr.

Sylvia o Melbourne Australia
Mae braidd yn rhy bell!


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy