"Mi gychwynnais ddysgu sut i gynganeddu pan oeddwn i tua 20 mlwydd oed. Mi gymerodd tua chwe mlynedd i mi allu cynganeddu heb straen ac erbyn hyn nid y cynganeddu ydy'r drafferth, ond meddwl am y geiriau i'w defnyddio."Wrth sgwennu awdl mae'n rhaid i bob gair ennill ei le - mae pob gair ym mhob llinell yn effeithio ar y geiriau eraill.
"Maen nhw'n cyhoeddi'r testun tua 13 mis ymlaen llaw ond wnes i ddim cychwyn ar y gwaith tan y mis Medi. Yna, ar ôl cael seibiant bach dros y Nadolig, mi chwynais y gwaith i bron chwarter ei faint, ond roedd o werth o.
"Clywais fy mod wedi ennill y gadair tua mis cyn y seremoni. Roedd yn rhaid i mi arwyddo cytundeb i ddweud na fuaswn yn dweud wrth neb, heblaw y teulu agos, fy mod i wedi ennill.
" Roedd yn anodd iawn peidio â dweud wrth neb - yn enwedig yn ystod wythnos yr eisteddfod wrth gael peint! Roedd yn rhaid i mi ddweud celwydd wrth bawb oedd yn gofyn os oeddwn i wedi ennill!
"Roedd disgwyl am y cadeirio yn brofiad reit nerfus. Roedd y cystadlu yn agos iawn rhyngof i a dau fardd arall y flwyddyn honno ac wrth wrando ar y feirniadaeth roeddwn yn dechrau amau ai fi oedd wedi ennill.
"Porth yr Aur oedd fy ffug-enw. Rhan o waliau'r dref yng Nghaernarfon ydy Porth yr Aur lle mae golygfa anhygoel o'r machlud dros y Fenai gyda'r nos yn yr haf. Ym Mhorth yr Aur roedd dau fyd yn cyfarfod wrth fynd am dro, y rhai ifanc ar eu ffordd i dafarn yr Anglesey a'r henoed ar eu ffordd adref.
"Roedd y seremoni ei hun yn arbennig, yn enwedig i un fel fi sydd yn rhan o'r byd barddoni. Ond mae'n bwysig i'r rhai sydd ddim yn hanu o'r byd yma hefyd gan mai dyma'r unig seremoni yng Nghymru sy'n llawn o bomp a lliw. Yn aml, rhyw ddyn mewn siwt ar lwyfan sy'n gwobrwyo pobl heddiw, ond mae seremonïau'r Orsedd yn unigryw.
"Ond i'r rhai sydd yn ansicr beth sy'n digwydd- peidiwch â phoeni, doeddwn i fel y bardd buddugol ddim yn siŵr chwaith. Gwrthododd pawb ddweud wrtha i beth i'w ddisgwyl ymlaen llaw - pan ofynnais i'r Archdderwydd am gymorth, dywedodd mai'r unig beth oedd yn newid o flwyddyn i flwyddyn oedd ymatebiad y bardd, felly mi wrthododd o fy rhybuddio i hefyd!
"Ddaru genod o'r ysgolion lleol berfformio dawns y blodau i mi a daeth y forwyn a'r flodeuged i mi. Roeddwn yn credu fy mod i'n cael cadw'r blodau felly cadwais afael ar y clustog wrth iddi drïo eu cymryd nhw'n ôl!
"Mi gefais gadw'r gadair wrth gwrs. Mae'r cefn yn ddarn mawr o dderw Siapaneaidd ac mae dros chwe troedfedd o daldra, gan ei bod yn bwysig gallu gweld enw a dyddiad yr eisteddfod uwch pen y bardd wrth iddo eistedd ar y gadair.
"Mae 'n drwm iawn ac yn anodd iawn i'w symud, felly mae'n byw yn fy 'stafell wely!
"Fel Prifardd, rwyf rŵan yn cael gwisgo gwisg wen yr Orsedd sy'n anrhydedd fawr. Wrth gwrs, mae'n anodd cymryd dy hyn o ddifrif wrth wisgo i fyny ond mae'n anrhydedd unigryw.
"Dyma beth yw'r eisteddfod, a dydi'r rhai sy'n gwrthod gwisgo gwisg yr Orsedd ddim yn haeddu cadw eu gwobrau.
"Mae'r orsedd a'r cadeirio yn unigryw. Dyma'r seremoni sy'n cloi'r eisteddfod ac sy'n dathlu'r hen, hen draddodiad o farddoni yng Nghymru. Wedi'r cyfan, wrth ganu Hen Wlad Fy Nhadau, rydyn ni'n dathlu '...gwlad beirdd a chantorion...' .