| Yn ôl y trefnwyr, roedd Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn llwyddiant ariannol: mae mwy o straeon o'r brifwyl ar y safle newyddion Y Coroni Dydd Llun oedd diwrnod y Coroni. Yr enillydd oedd Christine James, a fagwyd ar aelwyd ddi-Gymraeg yng Nghwm Rhondda. Gwobr Goffa Daniel Owen Enillydd y wobr hon ddydd Mawrth oedd Siân Eirian Rees Davies o Bwllheli am nofel yn dweud hanes yr ymfudwyr cyntaf i Batagonia. Y Fedal Ryddiaith Tro'r newyddiadurwr, Dylan Iorwerth, sy'n wreiddiol o'r Waunfawr, oedd hi i gael ei wobrwyo'n brif lenor ddydd Mercher. Tlws y Cerddor Christopher Painter o Gaerdydd oedd enillydd Tlws y Cerddor am gyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer cyfuniad o rhwng tri ac wyth offeryn. Y Gadair Y Prifardd Tudur Dylan, a fagwyd ym Mangor, enillodd y Gadair am yr eildro am ei awdl, Gorwelion. Mae mwy o straeon yr wythnos ar brif safle Eisteddfod y BBC. Roedd Maes B eleni o fewn Stâd y Faenol ei hun, lle roedd gigs yr Eisteddfod am yr wythnos yn cael eu cynnal. Cynhaliwyd nosweithiau Maes C - cyfuniad o nosweithiau barddoniaeth, comedi a cherddoriaeth - yn Galeri, Caernarfon gyda gigs Cymdeithas yr Iaith yn cael eu cynnal yn Amser, Bangor a Cofi Roc, Caernarfon. Ewch i ddarllen adolygiadau o rai o'r nosweithiau yma.
 |