BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Neuadd MynythoEisteddfod Gadeiriol Mynytho
Neuadd Bentref Mynytho
Ail benwythnos Ebrill
Cefndir

Eisteddfod capel oedd Eisteddfod Mynytho yn wreiddiol, ac ar ôl cyfnod o seibiant, cafodd ei hatgyfodi yn 1962 dan law pwyllgor yr aelwyd. Mae'r trysorydd, Einion Jones, yn dal yn ei swydd ers y cyfnod hwnnw a'r ysgrifennydd Dilwyn Thomas yn ei swydd yntau ers 13 o flynyddoedd.

Hyd yn ddiweddar, bachgen ifanc lleol fyddai'n llunio'r gadair ac fe gâi ei chyflwyno gyda rhodd er cof am Mr a Mrs Williams, Gwynfryn. Yn 1975, y prifardd buddugol oedd Moses Glyn Jones o Fynytho, a hynny flwyddyn ar ôl iddo ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin.

Heddiw rhoddir Medal yr Ieuenctid am y gwaith llenyddol gorau i rai o dan 25 mlwydd er cof am yr achlysur hwnnw. Ymhlith cyn enillwyr y gadair i lenorion ifanc, sef model o gadair i rai dan 21 oed, mae Menna Elfyn a Meinir Pierce Jones.

Caiff yr eisteddfod ei rhannu yn dair rhan. Ar nos Wener, mi fydd pobl ifanc o dan 25 mlwydd oed yn cystadlu. Tro'r plant lleol yw hi b'nawn Sadwrn ac mae nos Sadwrn yn agored i oedolion o bob man.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy