| "Cynhelir Eisteddfod Bro Aled, Llansannan yn mis Hydref. Mae yma wobrau ysgoloriaeth arbennig o £150 yr un ar gyfer perfformwyr cerdd, llefaru a llenyddiaeth rhwng 16 a 25 oed - a gwobr Arlunio arbennig o £100. Mae'r Eisteddfod yn gwbl agored i bawb, o bob ardal - a'n datblygiad diweddaraf yw meithrin adran dysgwyr yn yr Eisteddfod. Mae cyfarfod y p'nawn yn cychwyn am 12:00pm a chyfarfod yr hwyr yn cychwyn am 6:00pm.
 |