Cefndir: Eisteddfod wedi'i chynnal gan Gapel Methodistaidd Salem, Llanllyfni, oedd hon yn wreiddiol ac fe fyddai'r cystadleuwyr yn sefyll ar lwyfan yn y sêt fawr, tan yr adeiladwyd y Neuadd Goffa yn 1927. O'r 1930au, trigolion y pentref a fyddain trefnu'r eisteddfod. Erbyn hyn mae aelodau amrywiol bwyllgorau'r pentref, megis y Capel, yr Eglwys, yr Urdd a Merched y Wawr yn dod at ei gilydd i drefnu. Ar ôl gohirio'r eisteddfod yn sgîl yr Ail Ryfel Byd, daeth yn Eisteddfod Gadeiriol. Heddiw, bydd y bardd buddugol yn ennill cadair fach, yn ogystal â'r person ifanc dan 25 oed sydd wedi cyflwyno'r gwaith llenyddol gorau. Caiff y cadeiriau bach yma eu llunio gan athro celf a chrefft Ysgol Dyffryn Nantlle. Enillodd y bardd John Hywyn ei gadair gyntaf yn yr eisteddfod hon ac un flwyddyn, aeth y tri oedd yn cystadlu ar ganu ar lwyfan Eisteddfod Llanllyfni - Beryl Lloyd Roberts o Rhuthun, Robert o'r Bontnewydd a Ieuan ap Siôn o'r Wyddgrug ill tri ymlaen i lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor dri mis yn ddiweddarach. Bydd cystadlu hefyd ar gyfer tlws yr her unawd a'r her adroddiad. Rhoddwyd y tlysau yma i'r eisteddfod gan gwmni teledu Tŷ Gwyn a chwmni Ffilmiau'r Nant.
 |