BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eisteddfod LlandegfanEisteddfod Goronog Llandegfan
Neuadd y Plwyf
Sadwrn cyntaf Gorffennaf
Ysgrifennydd: Edward Morus Jones (01248) 713 912
Cefndir
Eisteddfod yng Nghapel Presbyteraidd Barachia, Llandegfan, oedd yr eisteddfod yma yn wreiddiol. Cychwynnodd yn y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd, ond symudwyd y cystadlu i Neuadd y Plwyf yn yr 1960au. Daeth yn Eisteddfod Goronog erbyn diwedd y 1970au.

Honnir fod Eisteddfod Llandegfan yn denu mwy o ymgeiswyr i gystadleuaeth y goron na'r Eisteddfod Genedlaethol. Efallai mai un o'r rhesymau yw'r coronau arian arbennig y mae John Price o Fachynlleth wedi'i creu ar ei chyfer dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Mae'r eisteddfod wedi denu nifer o gantorion ac adroddwyr o bob rhan o ogledd Cymru, gan gynnwys enillwyr y Rhuban Glas, yn eu plith Gwyn Huws Jones a Sharon Evans.

Hon hefyd oedd eisteddfod bro leol Aled Jones, a dyma lle byddai'r gohebydd Rhun ap Iorwerth a'r eisteddfodwr ifanc, Huw Edward Jones, yn canu deuawdau.

Diolch i Edward Morus Jones.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy