| Sefydlwyd Eisteddfod Dyffryn Ogwen ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Symudwyd y cystadlu o neuadd y pentref i Ysgol Dyffryn Ogwen yn ddiweddarach ac yno y mae'n cael ei chynnal hyd heddiw. Un o'r prif seremonïau yw'r cadeirio, cyflwyniad y fedal ryddiaith a medel yr ieuenctid. Mae'r trefnwyr yn gwahodd pobl ifanc y chweched dosbarth i ffurfio'r Orsedd ac yn trefnu i blant un o'r ysgolion cynradd lleol berfformio dawns y blodau. Mae nifer o enwogion wedi beirniadu dros y blynyddoedd, gan gynnwys Bardd yr Haf, R Williams-Parry.
 |