"Cynhaliwyd Eisteddfod Dyffryn Elwy 2004 ar 12 Mehefin yn y Neuadd Goffa yn Llanfair Talhaiarn. Bu'n eisteddfod lwyddiannus dros ben gyda chystadlu brwd - roedd y gynulleidfa braidd yn wan ond, ar y cyfan, bu'n llwyddiannus dros ben. "Ar y nos Sul, 13 Mehefin, cynhaliwyd y Gymanfa am 8.00 gyda Mrs Nesta Ellis, Treffynnon yn arwain, Helen Mona Rossington ar yr organ a Ceri Lloyd ar y piano. Unawdydd y noson oedd John Tegla o Lanelwy, llywydd y noson oedd Eleri Goddard o Gerrig y Drudion. Dolchwyd gan Joyce Lloyd. Bu'n gymanfa lwyddiannus gyda hwyl ar y canu!" Gan Joyce Lloyd Canlyniadau Cerdd Unawd dan 6: Alice, Bae Penrhyn. Unawd dan 8: W Ellis Roberts. Unawd dan 10: Lois Hughes. Unawd dan 12: Steffan Rhys Hughes. Deuawd dan 12: Mirain Rogers a Lois Hughes. Unawd Cerdd Dant dan 10: Mirain Rogers Unawd Cerdd Dant 10-15: Steffan Rhys Hughes. Unawd Cerdd Dant dros 15: Eleri Davies. Unawd piano dan 12: Delyth Roberts. Unawd offerynnol dan 12: Sophie Cleetham. Côr dan 15: Ysgol Llanfair TH Unawd dan 15: Bethany Davies Unawd 15-19: Eleri Davies. Cân werin dros 15: Elliw Roberts. Unawd o unrhyw sioe gerdd: Eleri Davies. Unawd Gymraeg dros 15: Meirion Jones. Unawd dros 50: Tecwyn Roberts, Dinbych. Adrodd Adrodd dan 6: Alice, Bae Penrhyn. Adrodd dan 8: Aion Roberts. Adrodd dan 10: Lois Griffiths. Adrodd dan 12: Steffan Rhys Hughes. Adrodd dan 15: Bethany Davies. Adrodd dan 30: Eleri Davies. Parti adrodd dan 15: Ysgol Llanfair TH. Adrodd digri: R D Owen, Llanfair TH. Adrodd ail-iaith dan 8: Hariet Littlewood. Dan 10: Toby Flack. Dan 12: Tavia Lloyd. Ysgrifennu Blwyddyn 1-2: Hariet Littlewood a Daniel Howard. Blwyddyn 3-4: Rebecca Davidson a Melisa Simmons. Blwyddyn 5-6: Alaw Rossington. Sgwrs ffôn dan 10: Mollie Evans a Gwen Lloyd Llenyddiaeth Dan 15: Alaw Gwyn Rossington. Llinell goll: Cledwyn Roberts. Englyn: R D Owen. Pedair pennill telyn: Edna Lloyd Davies.
 |