Cefndir Saif pentref Melin y Coed oddeutu milltir o ganol tref farchnad hynafol Llanrwst ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Conwy, ac fel y mynega'r enw, y mae yma felin fu unwaith yn malu grawn ar gyfer anghenion lleol. Y mae yma hefyd goedlannau amryliw a phrydferth.Ychydig iawn o hanes yr eisteddfod sy'n ysgrifenedig ond gallwn dynnu oddi ar gof trigolion a pherthnasau a fyddai bellach ymhell dros eu canmlwydd. Tystiai pob un ohonynt fod eisteddfod wedi ei chynnal yn y pentref yn flynyddol ers cyn cof, ar wahân i flynyddoedd y rhyfel.Yma y cychwynnodd R Davy Jones, Llanfairfechan ei yrfa fel cyfeilydd yn ogystal a'i gyfaill T J Williams, Maenan fel beirniad cerddorol. Y mae gennym ninnau ein T J D yn Tom Davies, Bryniog, un a fagwyd ym mwrlwm cymdeithasol y pentref ac enillydd rhuban glas Eisteddfod Dyffryn Lliw. Yn 1961 cychwynnodd y ddiweddar John Stoddart ar ei rawd eisteddfodol cyn troi yn ganwr proffesiynol ar lwyfannau'r byd. Yn 1961 fe'i cynhaliwyd ar ddydd Calan, bu hefyd ym mis Ebrill ac ers blynyddoedd bellach ar ddydd Sadwm cyntaf mis Hydref. Y mae yn ein meddiant raglen o gyfarfod llenyddol a cherddorol Calan 1925 fel y gelwid hi y pryd hwnnw. Bu yma ŵr arall hynod hoffus a dylanwadol ar weithgareddau cerddorol yr ardal, Yncl Johnnie i bawb. Dysgodd genedlaethau o blant i ddarllen y tonic sol ffa ac i ganu a chyfeilio ar ei aelwyd yn Siop Ucha ac yn festri Capel Bethel. Yn godwr canu, yn arweinydd parffon cymysg, meibion a merched. Yn ystod yr ugain mlynedd olaf daeth cystadleuaeth canu emyn yn foddion i gryfhau nifer y cystadleuwyr yn ogystal a chynyddu'r gynulleidfa. Bu cryn feirniadu ar werth cystadleuaeth o'r fath, ond bellach sefydlodd ei hun ymhlith un o gystadlaethau mwyaf poblogaidd yr eisteddfod - gan gynnwys y genedlaethol ei hun. Hyd yn ddiweddar bu codi Ilwyfan yn orchwyl flynyddol, cario treselau a phlanciau a chodi piano a bwysai hanner tunnell a mwy i'w phen er mawr hwyl yn aml, rhai yn codi - a rhai yn dal yn erbyn! Ar ddiwedd cyfarfod yr hwyr rhaid fyddai tynnu'r cwbwl a'i chario'n ôl i'w chwt i orffwys, ac yno y mae gan fod modd bellach symud yr organ a gosod piano cymesur ac ysgafnach na'r hen yn ei lle. Dei Bryniog
 |