BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bod yn Foslem ifanc
Omid Imanpaur o Bontllyfni, sydd â theulu o Iran, sy'n dweud sut brofiad ydy bod yn Foslem ifanc yng ngogledd Cymru.
"Mae'n iawn fod yn Foslem yma yng ngogledd Cymru, efallai oherwydd nad ydy pobl yma yn gwybod gymaint am y byd mawr neu ddim yn meddwl lot amdano. Mae'n reit hawdd i fyw fy mywyd fel Moslem heb neb yn fy moddran.

Er hynny, mae'n anoddach i mi wneud rhai pethau yn ymwneud â fy nghrefydd yma, fel mynd i'r mosg. Mae'r un agosaf ym Mangor, a dwi'n byw ym Mhontllyfni. Mae'n amhosib i mi fynd yna bob dydd i weddïo. Mae'n rhaid i ni weddïo bum gwaith y diwrnod ac nid oes lle i mi weddïo yn y gwaith, felly mae'n rhaid i mi ddod adref i weddïo, neu fynd at fy nhad yng Ngholeg Menai os dwi ym Mangor gan eu bod wedi trefnu lle ar ei gyfer yno.

Rhaid codi i weddïo cyn i'r haul godi, yna gweddïo eto yn hwyrach yn y bore, yn y pnawn, eto cyn i'r haul fachlud ac unwaith cyn mynd i'r gwely am tua 12 y nos. Mae yna ddigonedd o amser yn yr haf, ond roedd rhaid dod yn syth yn ôl o'r ysgol yn y gaeaf er mwyn gallu gweddïo cyn iddi nosi.

Ramadan
Mae cyfnod Ramadan pan nad ydym yn bwyta yn ystod oriau dydd yn anoddach yn yr haf hefyd - dwi heb wneud un reit ynghanol oriau hir yr haf eto a dwi ddim yn edrych ymlaen! Mae hefyd yn anodd gan mai jest fi a'r teulu sy'n ei wneud o, felly does gen i neb arall fel cymorth wrth ymprydio. Mae'r rhan fwyaf o'r Moslemiaid eraill yn yr ardal yma yn Sunni ac yn dod o Bakistan neu India. Mae fy nhad yn dod o Iran, ac rydym yn Shia - mae ein Ramadam ni ar adeg gwahanol i'r Sunni.

Bwyd Halal
Mae bwyta cig Halal hefyd yn anoddach yma nac mewn dinas fawr. Mae pobl yma yn dal i ofyn 'beth yw Halal', 'beth yw dy grefydd di?' Dwi methu credu eu bod dal i ofyn hynny. Mi fuasai'n dda cael mwy o siopau yn gwerthu cig Halal yn lle gorfod mynd i'r unig siop ym Mangor. Mae ASDA Llandudno wedi cychwyn gwerthu ychydig o'r cig yma, ond rhaid bod yna yn gynnar i'w brynu gan fod pawb arall yn ceisio ei brynu hefyd!

Halal yw'r broses o ladd yr anifail. Rhaid iddo fod wedi cael bywyd braf cyn ei ddal, ei bwyntio at Mecca a'i ladd gyda chyllell siarp, gan dorri'r bibell wynt. Yna, rhaid cael gwared â'r gwaed i gyd - mae hynny'n bwysig iawn. Nid ydym yn cael bwyta bwyd fel pwdin gwaed. Absolute no no! Yna rhaid dweud gweddi drosto, a dyna ni.

Bywyd yr ifanc
Dwi yn y brifysgol ym Mangor rŵan ac, yn ôl fy nghrefydd, dydw i ddim yn ysmygu nac yn yfed alcohol. Mae'n anodd gan fod fy ffrindiau i gyd yn mynd allan i yfed ond alla'i ddim gweld y pwynt o wastio pres ac amser yn yfed. I be? Does dim rhaid mynd allan fel yna i gael hwyl.

Dwi ddim yn gallu darllen Arabeg yn dda iawn eto ond mi fyswn i'n hoffi gwneud hynny, er mwyn gallu darllen y Koran. Mae fy nhad yn trïo fy nysgu, ond roedd yn ddigon dysgu Saesneg a Chymraeg ar ôl dod yma o Iran yn fachgen bach.

Dwi yn siarad Farsi efo dad ac efo'r teulu pan dwi 'di bod yn ôl i Iran. Dwi'n methu mynd yn ôl ar hyn o bryd gan fod yn rhaid i chi ymuno â'r fyddin am ddwy flynedd os ydych chi dros 18, a dwi ddim yn ffansïo hynny! Ond dwi yn colli'r bywyd nos i bobol ifanc yna - dim yfed, jest eistedd allan yn bwyta a siarad, ond mae'r amodau byw a gweithio yn well fan hyn. Mae'r pres yn da i ddim a'r llywodraeth yn gul. Dwi'n reit licio byw yng Nghymru."



Papurau Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy