Y Cartref, Bontnewydd
"Cafodd fy chwaer Nesta a fi ein geni mewn pentref o'r enw Chwilog, ger Pwllheli.Bu farw ein mam pan oedd ond yn naw ar hugain oed. Roeddwn i bron yn chwech oed a Nesta newydd gael ei thair oed ar Ebrill 1af 1942. Aethom i fyw at ein Nain am ychydig ac wedyn at ein hewythr a'n modryb i dref Pwllheli.
Gan fod y rhyfel ymlaen, methodd ein tad i edrych ar ein holau gan ei fod yn gweithio ar fferm yn Chwilog felly cawsom ein rhoi mewn cartref plant. Rwy'n siŵr eich bod wedi clywed am 'Y Cartref' Bontnewydd ger Caernarfon. Roedd yn cael ei redeg gan y Methodistiaid Calfinaidd.
Aethon yno yn Ebrill 1945. Y 'fetron' ar y pryd oedd Mrs Annie Wynne Ellis ac yr oedd fel mam i ni i gyd. Aethom i'r ysgol gynradd yn Bontnewydd ac wedyn i Ysgol Segontiwm yng Nghaernarfon.
Pan oeddwn yn un ar ddeg oed cefais wersi piano gan Mrs Anita Jones oedd yn organyddes Capel Seilo Caernarfon gynt. Erbyn i fi gyrraedd fy un ar bymtheg oed roeddwn yn chwarae'r organ yng nghapel Siloam, Bontnewydd. Ac mae hi rŵan yn hanner cant o flynyddoedd ers i mi gychwyn chwarae'r organ, a rwy'n dal i fod yn un o dri sy'n chwarae'r organ yng nghapel Salem Faerdref, Clydach, Abertawe.
Roedd yn rhaid i ni'r plant fynd i'r capel dair gwaith y Sul: gwasanaeth y bore, Ysgol Sul, prynhawn a gwasanaeth nos.
Chwech o'r gloch ar nos Lun roeddem yn mynd i'r Gobeithlu (Band of Hope) ac wedyn, saith o'r gloch, Cyfarfod Gweddi. Nos Fercher aethem i'r Seiat a gorfod dweud adnod o'r bregeth gawsom b'nawn Sul.
Amser y Pasg roedd ein capel yn cynnal eisteddfod. Ar ddydd Iau Cablyd roedd y bobl ifanc yn cystadlu, ar ddydd Gwener y Groglith, y plant bach oedd yn cystadlu a nos Wener, roedd yn agored i bawb. Bob blwyddyn roedd yn rhaid i ni gystadlu yn yr eisteddfod - canu, adrodd, cydadrodd darn o'r Beibl. Mae un darn yn dod i'm meddwl: Llyfr Hosea, pennod pedwar ar ddeg, sef "Ymchwel Israel at yr Arglwydd dy Dduw." Hefyd roedd rhaid i ni chwarae tôn allan o'r detholiad a chefais wobr fwy nag unwaith.
Bob gwyliau haf, bydden ym mynd i Lanfairfechan am fis o wyliau'r ysgol. Roedd gan Y Cartref dŷ haf yno, o'r enw Y Benarth. Ac yn y gaeaf os oedd cenhadwr gartref o'r maes cenhadol roedd ef a'i deulu yn cael aros yn Y Benarth.
Nadolig oedd un o'r amseroedd gorau gawsom yn Y Cartref. Noson cyn y Nadolig, daeth Elwyn, un o hen fechgyn y Cartref â choeden Nadolig fawr inni, a ni'r plant yn cael ei haddurno. Un flwyddyn, roeddem i gyd yn rhedeg o gwmpas yr ystafell a dyma fi yn syrthio ar fy ngên a gwaedu fel mochyn. Mae'r graith gennyf hyd heddiw. Yr oeddem i gyd yn ein gwely erbyn saith o'r gloch y noson honno.
Wedi deffro yn fuan bore Nadolig i weld os oedd Siôn Corn wedi bod a wir i chwi roedd pillowslip yn llawn o deganau a phethau eraill i bob plentyn.
Ar ôl cael cinio Nadolig bendigedig, buom yn chwarae gyda'n teganau. Yr oedd yn amser te, ac yr oedd te parti mawr wedi ei baratoi inni. Ac i orffen y diwrnod ardderchog daeth Siôn Corn i'n gweld a rhoi anrheg i bawb oddi ar y goeden Nadolig ac wedyn cawsom hwyl yn chwarae gemau fel cadeiriau cerddorol ac eraill.
Cawsom ychydig o chwibdeithiau gan y 'Toc H' o Borthmadog - un oedd i ben yr Wyddfa ar y trên.
Gadewais yr ysgol pan oeddwn bron yn ddwy ar bymtheg oed. Yr oeddwn eisiau gweithio mewn swyddfa fel teipydd llaw-fer ond es i weithio ar staff y Cartref i edrych ar ôl y plant. Fi hefyd oedd yn teipio yr adroddiad blynyddol yn barod i'r argraffwyr.
Yr ydym wedi bod yn lwcus iawn, wedi dathlu 50 o flynyddoedd y Cartref yn y flwyddyn 1952. Ac yna 75 o flynyddoedd yn 1977 pan ddaeth llawer o'r Hen Blant yno i ddathlu. Yna yn 2002 yr oeddem yno eto yn dathlu 100 mlwyddiant y Cartref. Y Parch a Mrs Gareth Maelor Jones yw'r wardeniaid rŵan.
Gadawodd fy chwaer i fynd i'r Coleg Normal ym Mangor i astudio Gwyddoniaeth Cartref. Priododd â bachgen o Bontnewydd a chawsant ddau fab sef Ian Arwel a Bryn Terfel.
Gadewais innau'r Cartref hefyd a mynd i weithio i Wrecsam. Mae gen i ferch o'r enw Sue ac ychydig o flynyddoedd wedyn fe gwrddais â Cilff fy ngŵr.
Gobeithio eich bod wedi mwynhau ychydig o'n storïau o pan oeddwn yn ifanc!"
Myra James